Alert Section

Ble rydyn ni nawr a pham mae angen i ni wneud mwy


Cafodd Strategaeth Rheoli Gwastraff presennol y Cyngor ei roi ar waith yn 2009 ac mae’n para tan 2025. 

Ers cael ei weithredu, mae’r gwasanaeth gwastraff wedi newid yn sylweddol.  Er mwyn cyrraedd Targedau Ailgylchu Statudol Llywodraeth Cymru rydym wedi symud o wasanaeth casglu wythnosol i wasanaeth modern, sydd yn canolbwyntio ailddefnyddio ac ailgylchu. 

Nôl yn 2010, roeddem yn ailgylchu tua 40% o’r gwastraff roeddem yn ei gasglu.  Trwy gyflwyno casgliadau ailgylchu wythnosol a chasgliadau gwastraff gweddilliol bob pythefnos rydym bellach yn ailgylchu bron i 70%.  

Gyda’ch cymorth chi, mae Sir y Fflint bellach yn y trydydd safle yng Nghymru o ran perfformiad gorau a’r awdurdod trefol neu rannol drefol sydd yn perfformio orau. 

Mae hynny yn gyflawniad gwych ond ni allwn fod yn hunanfodlon.  Yr arwyddion yw y gallai Llywodraeth Cymru gynyddu ein targedau i 80%, neu hyd yn oed 90% yn y dyfodol gan ei bod yn gwybod nad yw’r holl wastraff ailgylchadwy yn cael ei gyflwyno i gael ei ailgylchu.  

Mae yna rai aelwydydd sydd yn dal i wrthod ailgylchu unrhyw wastraff o gwbl.  Ym mis Mawrth 2018, dechreuodd y Cyngor gymryd camau gorfodi yn erbyn aelwydydd oedd parhau i adael gwastraff ychwanegol wrth ochr eu bin du.  Mae hyn wedi bod yn llwyddiant gyda 1% ychwanegol o wastraff bellach yn cael ei ailgylchu - ond nid yw hyn yn ddigon.  

Mae lleihau, ailddefnyddio neu ailgylchu ein gwastraff yn gwneud synnwyr ariannol da.  Mewn marchnadoedd masnachol, gallwn werthu deunyddiau ailgylchadwy ac ail-fuddsoddi’r incwm a dderbynnir mewn i'r gwasanaeth. Er nad yw’r incwm yma’n sylweddol, mae’n golygu nad ydym yn talu i gael gwared ar y gwastraff gan gadw ein costau gweithredol i lawr.  Ac os nad yw'r Cyngor yn cyrraedd targedau ailgylchu statudol, bydd yn cael dirwyon ariannol gan Lywodraeth Cymru. 

Mae pawb yn gwybod beth yw’r effeithiau amgylcheddol o fethu â lleihau, ailddefnyddio neu ailgylchu ein gwastraff cartref, ac mae’r mater yn cael sylw yn y cyfryngau cenedlaethol bron yn ddyddiol.