Alert Section

Canfyddiadau'r Arolwg i Aelwydydd a'r Sesiynau Gwybodaeth i'r Cyhoedd

Adborth gan drigolion a gymerodd ran yn y sesiynau gwybodaeth 20mya

Crynodeb o'r Arolwg Ar-lein

Gweld y crynodeb yr arolwg ar-lein


Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20mya Diofyn ar Ffyrdd Cyfyngedig
Digwyddiadau Gwybodaeth Cynllun Peilot Bwcle - Adroddiad Cryno
23 Mawrth 2023

Pwrpas yr ymgysylltiad

  • Casglu adborth gan drigolion sy’n byw yn yr ardaloedd 20mya peilot;
  • Casglu adborth ar strategaeth gyfathrebu’r Cyngor ar gyfer cynllun peilot 20mya Bwcle;
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 a fydd yn gostwng terfynau cyflymder 30mya i 20mya yn ddiofyn (oni bai am eithriadau i’r meini prawf).

Cyfnod ymgysylltu

  • 25 Ionawr 2023 - Sesiwn Ar-lein 2-7pm
  • 1 Chwefror 2023 - Gwesty Beaufort Park, New Brighton - Sesiwn Wyneb yn Wyneb 2-7pm
  • 2 Chwefror 2023 - Sesiwn Ar-lein 3-6:40pm
  • 8 Chwefror 2023 - Canolfan Westwood, Bwcle - Sesiwn Wyneb yn Wyneb 3-7:45pm
  • 9 Chwefror 2023 - Sesiwn Ar-lein 2-7pm

Mynychodd cyfanswm o 127 o bobl y sesiynau gwybodaeth cyhoeddus.  Yn ogystal â’r sesiynau hyn, cynhaliwyd holiadur i aelwydydd ar-lein. Derbyniodd 9,426 eiddo, sydd wedi’u lleoli o fewn ardaloedd y terfynau cyflymder 20mya, lythyr i gymryd rhan a chafwyd 2,712 ymateb.

Y Rhaglen

  • Egluro’r meini prawf a’r meini prawf eithriadau ar gyferGorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022;
  • Casglu adborth, problemau, cwynion ac ymholiadau gan drigolion.
  • Casglu adborth ar strategaeth gyfathrebu’r Cyngor ar gyfer cynllun peilot 20mya Bwcle.

Crynodeb o’r cwestiynau a’r atebion

Mae crynodeb o’r pynciau a drafodwyd yn y sesiynau wedi’u rhestru isod:

Cerdded a beicio

Codwyd cwestiynau yn nifer o’r sesiynau am gyflymder beicwyr a ph’un a fyddai’n rhaid i feicwyr gadw at y terfyn cyflymder o 20mya. 

Cyflymder Traffig / Materion Gorfodi

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch pa fesurau gorfodi fydd ar waith, sut fydd cyflymder traffig yn cael ei fonitro, pryd fydd y terfynau cyflymder 20mya yn cael eu cyflwyno a beth fydd ymagwedd yr heddlu mewn perthynas ag addysgu gyrwyr yn hytrach na’u cosbi.

Mynegodd nifer o fynychwyr bryderon am yrwyr yn cadw’n rhy agos, goddiweddyd a gyrru ymosodol ar Ffordd Lerpwl hefyd.

Cwmpas y Gorchymyn

Roedd y mynychwyr yn gefnogol iawn o gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya mewn ystadau preswyl, canol y dref, ger cyfleusterau addysgol ac ardaloedd poblog lle mae nifer o bobl yn cerdded.

Nodwyd nad oedd Ffordd Lerpwl, sef y brif ffordd drwy’r dref sydd ar oleddf sylweddol, yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya.   Roedd diffyg cefnogaeth amlwg gan fynychwyr ar gyfer cyfyngiadau 20mya yn y lleoliad hwn ym mhob sesiwn.  Codwyd ymholiadau hefyd ynghylch pam y dewiswyd Ffordd Lerpwl fel rhan o’r cynllun peilot a pham nad oedd Ffordd yr Wyddgrug wedi’i chynnwys.

Effaith economaidd ar Ganol y Dref

Mynegwyd pryderon yn nifer o’r sesiynau ar yr effaith economaidd mae’r cynllun peilot wedi’i gael ar dref Bwcle, yn ôl barn neu fel arall.   Roedd y materion a godwyd yn canolbwyntio ar yr effaith ymddangosiadol ar nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref.

Roedd tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng yn sylweddol gan fod gyrwyr yn osgoi’r cyfyngiad 20mya ar Ffordd Lerpwl.  Roedd adfywiad canol y dref wrth wraidd y pryderon a theimlwyd bod cyflwyno’r cyfyngiadau 20mya yn amharu’n sylweddol ar hyn. 

Gwybodaeth, Ymgynghori ac Ymgysylltu

Roedd nifer o fynychwyr yn anhapus â’r broses ymgynghori, y diffyg gwybodaeth, y diffyg sesiynau wyneb yn wyneb yn sgil cyfyngiadau Covid a’r defnydd o blatfformau ar-lein ac ati.  Awgrymodd nifer o fynychwyr y dylai llythyrau fod wedi cael eu postio o amgylch y dref.

Ffactorau amgylcheddol

Codwyd pryderon mewn perthynas â chynnydd mewn allyriadau o ganlyniad i’r cyflymder is a’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar yr hinsawdd ac iechyd - yn arbennig allyriadau o Gerbydau Nwyddau Trwm, bysiau, ac ati.  Trafodwyd llygredd aer ym mhob sesiwn grŵp. 

Cost Gweithredu

Cafwyd llawer o drafodaethau a dadleuon ynghylch y gost o weithredu’r cyfyngiadau 20mya.  Nodwyd bod sefyllfa ariannol y DU yn ansicr iawn ar hyn o bryd ac y byddai’n well gwario’r arian ar bethau eraill.

Digwyddiadau, anafiadau a marwolaethau cysylltiedig â thraffig ar y ffyrdd

Ymholodd nifer o’r mynychwyr am y cyfyngiadau ar y ffyrdd lle nad oedd unrhyw achosion wedi bod o’r uchod.  Dywedwyd bod cerbydau’n dod yn fwy diogel a bod datblygiadau yn nhechnoleg cerbydau yn negyddu’r angen am gyfyngiadau 20mya.

Meini Prawf Eithriadau

Cafwyd llawer o drafodaethau am y meini prawf eithriadau ym mhob sesiwn grŵp a darparodd y swyddogion eglurhad manwl.  Mynegodd y mynychwyr eu pryderon na fyddai’r eithriadau’n cael eu hystyried ac roeddent yn ddiystyriol iawn o broses a gallu’r Cyngor i arfer eithriadau perthnasol.  Roedd pryderon cyffredinol na fyddai’r broses eithrio’n cael ei dilyn yn gywir.

Y broses ymgysylltu

Roedd y digwyddiadau’n agored i bawb ac wedi cael eu hyrwyddo drwy bostio llythyrau i’r preswylwyr hynny a effeithir gan y cynllun peilot, platfformau cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’r wasg.  Gellid cofrestru ar gyfer llefydd ar-lein neu dros y ffôn.