Gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth
Rydym yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth am ddim ar gyfer busnesau i archebu taflenni a phamffledi. Mae’r wybodaeth yma ar gael i annog ymwelwyr i grwydro’r ardal, ac i wella eu profiadau unwaith y maent yma.
Mae’r cynnyrch yn cynnwys:
- Cyrchfan Treffynnon a Maes Glas
- Darganfod Yr Wyddgrug
- Ffordd y Gogledd
- Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
- Porth Golff Cymru




Pwy all archebu?
Mae croeso i chi archebu trwy’r gwasanaeth dosbarthu taflenni os ydi eich busnes yn gweithredu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r cyffiniau a’ch bod yn dod i gysylltiad rheolaidd ag ymwelwyr.
Sut i archebu?
Archebwch gan ein Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth ar-lein. Byddwn yn trefnu i’r cwmni dosbarthu ddanfon eich archeb i chi, yn rhad ac am ddim.
Archebwch gan ein Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth ar-lein
Archebwch ddigon o stoc ar gyfer o leiaf tri mis tan y bydd y dosbarthiad nesaf. Os byddwch yn rhedeg yn isel yn y cyfamser, e-bostiwch tourism@flintshire.gov.uk ac fe wnawn ein gorau i drefnu bod mwy o stoc yn cael ei anfon i chi.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd ein cwmni dosbarthu yn cyflenwi’r stoc i chi o fewn pythefnos ar ôl y dyddiad cau i archebu. Os nad ydych chi’n derbyn eich deunyddiau o fewn pythefnos ar ôl y dyddiad cau, e-bostiwch ni tourism@flintshire.gov.uk a byddwn yn trafod gyda’r cwmni dosbarthu ar eich rhan.