I gefnogi’r Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael grant gan Lywodraeth Cymru, trwy’r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, i greu cysylltiadau gwyrddach drwy’r Sir, gyda’r weledigaeth o wella mannau gwyrdd er budd pobl a natur.
Ar hyn o bryd, gorchudd coed trefol yn Sir y Fflint yw’r seithfed lleiaf yng Nghymru, gan orchuddio 14.5% o’r tir. Mae coed yn gynrychioladol o fyd natur oherwydd eu pwysigrwydd wrth liniaru newid hinsawdd, creu cynefinoedd a hybu bioamrywiaeth. I fodau dynol, mae coed yn fuddiol i’n hiechyd meddwl a chorfforol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
I gyrraedd y targed o gael gorchudd coed dros 18% o’r tir erbyn 2033, mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda chynghorau lleol, cymunedau ac ysgolion i nodi a chytuno ar nifer o safleoedd trefol i blannu coed. Drwy gydol pob tymor plannu coed rydym ni wedi plannu coed newydd, yn ogystal â gwneud gwaith cynnal a chadw ar ein gorchudd canopi presennol drwy blannu coed yn lle’r rhai rydym ni wedi gorfod eu torri. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Coedwig Sir y Fflint.
Os oes gan eich tref neu eich cymuned chi ddiddordeb mewn plannu coed, cysylltwch â ni i drafod ymhellach: bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk.
Bydd safleoedd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y budd posibl i’r gymuned a byd natur.I ddysgu mwy am ymrwymiad Sir y Fflint i goed, ewch i’n tudalen ar Goed.