Mae Partneriaethau Natur Lleol yn bartneriaethau ar draws Cymru sy'n uno ystod eang o bobl a sefydliadau i arwain gweithredoedd lleol er budd natur.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu’r Bartneriaeth Natur leol (Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru). Sefydlwyd Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ym mis Hydref 2009. Mae’n dod â phartneriaethau bioamrywiaeth lleol oedd yn bodoli yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam ynghyd.
Mae’n cynnwys nifer o sefydliadau megis awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, a Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, RSPB, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, Cymdeithas Brydeinig saethu a chadwraeth, Cadwraeth Gloÿnnod Byw, Sw Gaer, Grŵp Moch Daear Clwyd, Cadwch Gymru'n Daclus, Tir Gwyllt, Cofnod (Canolfan Gofnodion Amgylcheddol Gogledd Cymru), busnesau a chofnodwyr ac ymgynghorwyr annibynnol.
Nod eang y rhwydwaith yw cadw, diogelu a gwella bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae cydweithio yn bwysig i’r bartneriaeth ynghyd ag amcanion eraill sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth ac annog bioamrywiaeth, a nodi blaenoriaethau lleol i fodloni targedau natur lleol.
Dilynwch ni i dderbyn y newyddion diweddaraf a manylion digwyddiadau ar draws gogledd ddwyrain Cymru: