Alert Section

Dyletswydd Bioamrywiaeth

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled â'i fod yn cyd-fynd ag arfer eu swyddogaethau yn briodol ac wrth wneud hynny, rhaid hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.

Fel awdurdod lleol mae gennym ddyletswydd i weithredu yn gynaliadwy ac arwain drwy esiampl i ddiogelu a hybu ein hamgylchedd naturiol. Mae gan Gyngor Sir y Fflint sawl maes o ran cyfrifoldeb a all effeithio ar yr amgylchedd naturiol ac mae gennym ni’r awdurdod a’r ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn dull sy’n sicrhau fod natur yn cael ei ddiogelu ac yn cael ei adfer. Mae’r dull hwn o weithio yn cyd-fynd â chamau gweithredu effeithiol yn erbyn newid hinsawdd.

Er mwyn ymateb i’r her o ddadwneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr ac yn sicrhau ein bod fel awdurdod lleol yn diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.