Alert Section

Clefyd Coed Ynn


Clefyd coed ynn yw’r clefyd coed mwyaf arwyddocaol i effeithio’r DU ers clefyd llwyfen yr Isalmaen.

Mae ganddo’r potensial i heintio mwy na dwy biliwn o goed ynn ac wedi arwain at tua 90% ohonynt yn marw.

>Mae clefyd coed ynn bellach dros ardal eang yn Sir y Fflint ac o ganlyniad, mae goblygiadau diogelwch sylweddol i’r cyngor a pherchnogion tir, lle mae coed ynn wedi’u lleoli wrth ymyl pobl neu eiddo.

Mewn ymateb i fygythiadau’r clefyd, mae’r cyngor wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn Sir y Fflint.

Rhaid i berchnogion tir wneud eu hunain yn ymwybodol o’r clefyd a’i effeithiau. Mwy o wybodaeth am glefyd coed ynn i berchnogion tir.

Clefyd Coed Ynn  

Mae clefyd coed ynn (Hymenoscyphus fraxineus) yn bathogen ffyngaidd sy’n effeithio coed ynn brodorol y DU (Fraxinus excelsior)) ac yn debygol o ladd tua 90% ohonynt.

Cadarnhawyd clefyd coed ynn gyntaf yn Sir y Fflint yn 2015 ac mae bellach dros ardal eang yn effeithio coed ynn o bob oedran. Mae coed ifanc fel arfer yn cael eu lladd dros gyfnod o sawl mis tra bod coed aeddfed yn dirywio dros sawl blwyddyn. Yn dilyn haint cychwynnol o glefyd coed ynn, mae coed aeddfed yn debygol o fod yn destun haint eilaidd gan bathogenau eraill.

Gall coed aeddfed ymateb i’r haint gyda chlystyrau dwys o dyfiant dail, sy’n marcio eithafoedd y goeden fyw. Gellir cymharu’r tyfiant dwys hwn â phom-pom codwr hwyl ac yn symptom amlwg o goed ynn yn gwywo mewn coed aeddfed. Lle mae’r clefyd yn angheuol, mae’r clefyd yn datblygu tan nad oes unrhyw ddeiliach ar y goeden. 

Er ei fod yn ddinistriol, nid yw clefyd coed ynn bob amser yn angheuol. Mae tystiolaeth o dir mawr Ewrop yn awgrymu bod 10% o goed yn dangos goddefiad cymedrol a bod 1% i 2% â goddefiad lefel uchel o’r clefyd.

Mae’r Cyngor Coed a’r Comisiwn Coedwigaeth ag adnoddau ar-lein ar gyfer adnabod y clefyd.

Forest Research – Chalara Ash dieback

The Tree Council – Chalara in the UK

The Tree Council – Chalara in the UK: A photo ID guide to symptoms in in larger trees

Pryderon diogelwch 

Mae yna fwy o risg i ddiogelwch y cyhoedd o ganlyniad i goed ynn aeddfed yn gwywo ac o ganlyniad yn disgyn neu’n colli canghennau mawr. 

Oherwydd ei daeareg galchfaen gan fwyaf,  mae coed ynn cyffredin yn un o’r coed mwyaf niferus ac a ddosberthir yn eang yn Sir y Fflint. Amcangyfrifir mai coed ynn yw’r rhywogaeth bennaf o goed mewn 1500ha o goetiroedd y sir ac yn bresennol mewn 400ha arall. 

Amcangyfrifir bod tua 12,000 o goed ynn dros 5m o uchder yn tyfu’n gyfagos i brif ffyrdd y sir.

Mae gan berchnogion tir ddyletswydd gofal sy’n cynnwys rheoli coed, a dyma pam y cânt eu cynghori i gael archwiliad rheolaidd o goed (a chadw cofnodion) os ydynt mewn lleoliad a allai achos niwed, os ydynt yn methu’r archwiliad hwnnw.

Mae Managing trees for safety yn daflen wedi’i hanelu at ddeiliaid tai, a gynhyrchir gan y Grŵp Diogelwch Coed Cenedlaethol.

Mae’r Gymdeithas Goedyddiaeth hefyd wedi cynhyrchu Ash Dieback Guidance; i berchnogion tir.

Coed yn gyfagos i briffordd

Ystyrir mai’r perygl mwyaf yw’r coed ynn aeddfed wrth ymyl y prif Ffyrdd A a B o rwydwaith priffyrdd y sir, lle mae cerbydau’n teithio gyflymaf ac sydd â’r traffig mwyaf. Yn ogystal â hynny, ceir coed ynn aeddfed wrth ymyl is-ffyrdd mewn ardaloedd trefol sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan gerbydau, beicwyr a cherddwyr.

Caution Ash Dieback Surveying

Mewn ymateb i’r risgiau cynyddol a geir gyda chlefyd yr ynn yn gwywo, mae’r cyngor yn cynyddu pa mor aml y ceir arolygon coed ynn i nodi coed peryglus ar brif ffyrdd. Bydd yr arolygon hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar goed o fewn y briffordd gyhoeddus a gynhelir gan y cyngor ac felly dylai perchnogion tir gymryd camau i sicrhau nad yw eu coed yn peri risg annerbyniol i ddefnyddwyr priffyrdd. 

Ash dieback survey image

Beth sydd angen i mi ei wneud? 

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o ffiniau eich tir a gwybod pa goed yw eich cyfrifoldeb chi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwrychoedd yn gyfagos i’r briffordd yn gyfrifoldeb y perchennog tir cyfagos, ac nid y cyngor.
  • Nodwch goed ynn sydd yn eich perchnogaeth sydd o fewn pellter cwympo i’r lôn gerbydau neu’r llwybr troed.
  • Edrychwch am gorun sy’n gwywo. Dyma brif symptom y clefyd ac mae’n haws ei adnabod pan fo coed ynn yn llawn dail.
  • Gwiriwch sail y boncyff am ddirywiad.
  • Ceisiwch gyngor gan weithiwr coed proffesiynol os yw corun yn gwywo. 
  • Lle bo angen, gweithredwch i leihau lefel y risg i’r cyhoedd. 
  • Monitrwch ac ail-arolygwch. Un o’r pryderon mwyaf gyda chlefyd coed ynn yw dirywiad sydyn coed yn dilyn yr haint cychwynnol.  

Gwneud gwaith i goed ynn wedi’u heintio sy’n gyfagos i’r briffordd

Rhaid i waith coed a wneir ar briffordd gyhoeddus, neu wrth ei hymyl, gael ei gynnal yn unol â Diogelwch Gwaith Stryd a Gwaith Ffyrdd – Cod Ymarfer. Mae hyn i sicrhau bod gweithredwyr a defnyddwyr priffyrdd yn cael eu diogelu. 

Mae clefyd coed ynn yn gwneud i’r pren yn y coed droi’n frau, gan wneud torri coed i lawr a thorri’n broses anrhagweladwy ac yn fwy peryglus. Am y rheswm hwn, mae’n bwysig bod camau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi yn eu lle, y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer gwaith coed eraill, i leihau lefel y risg. 

Dylai gwaith coed clefyd coed ynn yn gyfagos i briffordd gyhoeddus gael ei gynnal gan weithredwyr profiadol a chymwys yn unig, gan ddilyn arfer da a gofynion rheoli traffig. 

Lle mae rheolaeth traffig arfaethedig yn golygu bod angen rhwystro’r briffordd i wneud y gwaith coed yn ddiogel, dylai perchnogion tir a chontractwyr roi gwybod i Strydwedd (Rhif ffôn 01352 701234) yn ystod y cam cynllunio. 

Lle bo’n bosibl, bydd y cyngor yn cydlynu’r gwaith coed ar brif ffyrdd i leihau amhariad ar draffig. 

Diogelu Bywyd Gwyllt

Wrth gynllunio a chynnal gwaith coed, mae’n hanfodol sicrhau bod rhywogaethau a warchodir a’u cynefinoedd yn cael eu diogelu (adar sy’n nythu, ystlumod a phathewod) a fydd eisoes mewn perygl oherwydd bod y cynefin coed ynn wedi’i golli.Gellir cael hyd i fwy o wybodaeth am rywogaethau a warchodir ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Coed a warchodir

Oni bai eu bod mewn dirywiad sylweddol, bydd angen cyflwyno cais ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i wneud gwaith ar goed ynn sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed. Yn yr un modd, bydd coed ynn o fewn Ardal Gadwraeth angen hysbysiad ffurfiol.

Cynghorir unrhyw un sy’n cynnig gwneud gwaith i goeden ynn ar y sail ei bod yn dirywio’n sylweddol ac wedi’i hystyried yn eithriedig rhag yr angen i gael cymeradwyaeth, i e-bostio Swyddog Coedwigaeth y Cyngor. 

Gellir cael hyd i fwy o wybodaeth am goed a warchodir ar dudalennau gwe eraill y Cyngor. 

Adferiad  

Mae tudalen 26 o Gynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn Sir y Fflint yn ystyried opsiynau adfer.