Enghreifftiau o waith cymwys
Mae’r Grant Gwella Eiddo Canol y Dref yn talu am amrywiaeth helaeth o welliannau mewn eiddo masnachol ynghanol trefi Sir y Fflint.
Mae grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael i dalu hyd at 70% o gyfanswm costau eich prosiect. Bydd arnoch angen cyfrannu o leiaf 30% eich hun.
Porwch drwy’r adrannau isod i weld pa fath o waith sy’n gymwys. Os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn gymwys, defnyddiwch ein Gwiriwr Cymhwysedd neu holwch y Tîm Adfywio.
Cynllun ar gyfer gwaith allanol yn bennaf yw’r Grant Gwella Eiddo Canol y Dref. Mae modd ariannu gwaith felly fel prosiectau hunangynhwysol – nid oes angen ichi fod yn gwneud gwaith mewnol i fod yn gymwys.
Blaenau Siopau ac Adeiladau
- Blaenau siopau newydd
- Gwella ffenestri arddangos
- Adfer blaenau siopau traddodiadol
- Gwella hygyrchedd mynedfeydd
Tu Allan i Adeiladau
- Trwsio toeau a gosod rhai newydd
- Gosod ffenestri a drysau newydd
- Rendro a chladin allanol
- Ail-bwyntio a glanhau gwaith cerrig
- Atgyweirio strwythurol
Arwyddion
- Gosod arwyddion newydd neu’u hadnewyddu
- Arwyddion wedi’u goleuo
- Adnewyddu byrddau ffasgia
Goleuadau Allanol
- Golau diogelwch
- Golau addurniadol allanol
- Gosod bylbiau LED mewn goleuadau allanol
Nwyddau Dŵr Glaw
- Landeri newydd
- Peipiau dwr newydd
- Gwaith draenio cysylltiedig
Pwysig – amod ar waith mewnol
Nid yw gwaith mewnol yn gymwys ond os yw’n rhan o becyn ehangach o waith sy’n cynnwys gwelliannau allanol. Ni roddir ystyriaeth i ariannu prosiectau mewnol yn unig.
Os ydych chi’n gwneud gwaith allanol sy’n gymwys, gallwch hefyd gynnwys gwelliannau mewnol yn eich prosiect.
Waliau, Nenfydau a Lloriau
- Waliau mewnol a pharwydydd
- Nenfydau a soffits
- Adnewyddu neu wella lloriau
- Newid cynllun i ddefnyddio gofod yn well
Hygyrchedd
- Rampiau a mynedfeydd gwastad
- Toiledau hygyrch
- Lifftiau a lifftiau llwyfan
- Dolenni clyw a dynodi llwybrau
Goleuadau
- Systemau golau LED mewnol
- Gwella goleuadau nodwedd
- Goleuadau argyfwng
Cyfleusterau a Lles
- Cyfleusterau ymolchi hanfodol
- Ardaloedd lles staff (hanfodol yn unig)
- Gwella cyfleustodau a gwasanaethau
- Gwella systemau gwresogi
Strwythurol
- Atgyweirio strwythurau mewnol
- Addasu waliau sy’n cynnal pwysau
- Tanategu (lle bo angen)
Pwysig — amod ar waith effeithlonrwydd ynni
Nid yw gwaith er effeithlonrwydd ynni’n gymwys ond os yw’n rhan o becyn ehangach o waith sy’n cynnwys gwelliannau allanol. Ni roddir ystyriaeth i brosiectau effeithlonrwydd ynni’n unig
Mae’r cynllun Gwella Eiddo Canol y Dref yn gallu ariannu gwaith i wella effeithlonrwydd ynni eich eiddo os gwneir hynny ochr yn ochr â gwaith allanol sy’n gymwys. Gallai’r gwelliannau hynny gwtogi ar gostau cynnal eich adeilad a’i baratoi ar gyfer y dyfodol.
Inswleiddio
- Inswleiddio waliau’n well
- Inswleiddio toeau’n well
- Inswleiddio lloriau
Ffenestri
- Gosod ffenestri gwydr dwbl neu’u hadnewyddu
- Ffenestri gwydr triphlyg
- Ffenestri ategol
Gwresogi
- Systemau gwresogi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
- Pympiau gwres yr awyr
- Rheolyddion gwresogi doeth
Ynni Adnewyddadwy a Goleuadau
- Paneli solar (os cafwyd caniatâd cynllunio)
- Systemau golau LED (mewnol ac allanol)
- Awyru mecanyddol sy’n adfer gwres (MVHR)
Nid yw’r mathau canlynol o waith yn gymwys am grant Gwella Eiddo Canol y Dref. Os nad ydych yn siŵr a yw’r gwaith y bwriadwch ei wneud yn gymwys, cysylltwch â’r Tîm Adfywio cyn cychwyn arni.
Gwaith sydd eisoes wedi’i ddechrau neu ymrwymo iddo
- Unrhyw waith sydd wedi’i ddechrau neu’i gwblhau cyn cymeradwyo’r grant
- Archebion neu flaendaliadau a wnaed cyn cymeradwyo’r grant
- Nid oes unrhyw arian ar gael ar gyfer ôl-daliadau ar unrhyw gyfrif
Math o Eiddo
- Eiddo preswyl yn unig
- Eiddo y tu hwnt i ffiniau’r wyth o ganol trefi dynodedig yn Sir y Fflint
- Tir gwag neu adeiladu eiddo newydd
Math o Waith
- Cynnal a chadw cyffredinol ac ail-addurno
- Stoc, offer neu ddodrefn
- Deunydd marchnata neu hyrwyddo
- Ardrethi busnes neu dalu rhent
- Costau staffio
Ffioedd Proffesiynol
- NID yw’r grant yn talu am ffioedd penseiri, syrfewyr a rheolwyr prosiectau.
- Gellir cyfrif y ffioedd hynny, fodd bynnag, yn eich cyfraniad cyfatebol o 30%
Lleoliad
Eiddo a saif y tu hwnt i ffiniau’r ardaloedd sy’n gymwys am grant Gwella Eiddo Canol y Dref:
Noder: Mae cyllid cyfyngedig ar gael hefyd ar gyfer eiddo sydd wedi’u lleoli hyd at 0.5 milltir o ffiniau canol trefi dynodedig. Cysylltwch â’r Tîm Adfywio os ydych yn meddwl bod eich eiddo yn yr ardal hon.
Nodyn ynglŷn â ffioedd proffesiynol
Ni ellir hawlio ffioedd proffesiynol ar gyfer penseiri, syrfewyr ac ati fel gwariant gyda’r grant, ond maent yn cyfrif at eich cyfraniad cyfatebol chi. Er enghraifft, os mai £30,000 yw cyfanswm cost eich prosiect (gan gynnwys £3,000 ar gyfer ffioedd penseiri), mae arnoch angen cyfrannu £9,000. Gellir cyfrif ffioedd y pensaer yn y £9,000 hwnnw.