Cymunedau, busnesau a thrigolion Sir y Fflint yn ffynnu, diolch i brosiectau UKSPF
Promenâd newydd ar draeth Talacre, Sir y Fflint.
Mae miloedd o fetrau sgwâr o lecynnau awyr agored wedi cael eu gwella ym mhob rhan o Sir y Fflint, cannoedd o bobl wedi ennill cymwysterau newydd a nifer o gwmnïau wedi cymryd camau allweddol i leihau eu hôl troed carbon.
Cyflawnwyd gwelliannau allweddol gan 18 o brosiectau yn amrywio o osod llwybr pren (boardwalk) yn Nhalacre i lansio grwpiau cymunedol newydd, i alluogi busnesau i leihau eu allyriadau carbon.
Yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) ac yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen 2022/25, roedd ffocws y gronfa ym mlwyddyn ychwanegol 2025/26 ar gefnogi tri maes gweithredu, sef cymunedau a lle, cefnogi busnesau, a phobl a sgiliau.
Defnyddiodd Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi Cyngor Sir y Fflint y cynllun UKSPF i wella eiddo masnachol, a chlustnodwyd arian i wella cyfleusterau awyr agored Parc Treftadaeth Dyffryn Maesglas yn Nhreffynnon. Cafodd 4,000 metr sgwâr o amgylcheddau naturiol eu gwella ym mhob rhan o’r sir.
Ysgol Treffynnon and Ysgol Maes Y Felin plaza.
Derbyniodd Ysgol Treffynnon bump plannwr (planter) mawr, dwy ffrâm goed (cold frame) ac amrywiaeth fawr o blanhigion. Yno hefyd, cafwyd gwared o weddillion gwreiddiau pump o goed i wneud y safle’n fwy diogel.
Meddai rheolydd busnes Ysgol Treffynnon Gemma Boniface: “Heb gefnogaeth arian UKSPF a Chyngor Sir y Fflint, ni fyddem wedi gallu fforddio gwneud y newidiadau hyn. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a gafwyd.”
Prosiect ag iddo’r nod o gryfhau balchder a llesiant y gymuned oedd cynllun Gogledd Cymru Actif o’r enw ‘Egnïol, Iach a Hapus’, lle sefydlwyd clwb dartiau newydd sbon yn Shotton. Ym Mwcle cyflwynwyd rhaglen ymarfer corff i annog pobl 60 oed a throsodd i fod yn fwy egnïol a gwneud ffrindiau newydd.
Un sy’n mwynhau mynd i’r clwb dartiau yn Shotton yw Ruby Jones, disgybl 8 oed yn Ysgol Gynradd Eglwysig Sant Ethelwold. Meddai: "Dwi’n hoffi dod yma am ei fod yn hwyl. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl wahanol, ac rydw i eisoes wedi gwneud ffrindiau newydd."
(O'r chwith i'r dde) Gwella's Romi Halfpenny-Williams; Cllr Nigel Brown; Ruby Jones' mum Leanne; Ruby Jones.
Yn ôl y data a gasglwyd gan y rhaglen UKSPF, mae 646 o bobl wedi ennill cymhwyster neu gwblhau cwrs, 726 o gyfleoedd gwirfoddoli wedi eu creu, a 283 o drigolion ar hyn o bryd yn dilyn cwrs addysg neu hyfforddiant.
Gwelodd y cynllun ‘Cryfder mewn Rhifau’ fwy na 100 o ddisgyblion a rhieni yn cymryd rhan mewn gweithdai deall AI, a sut i fanteisio arno. Adroddodd 98% o’r rhai a gymrodd ran eu bod bellach yn defnyddio technoleg yn fwy hyderus.
Meddai cydlynydd y prosiect ‘Cryfder mewn Rhifau’, Claire Worrall: “Rydym wrth ein bodd ynglŷn â’r ffordd y mae ein partner gweithredu, Sniff and Snails, wedi helpu i wella sgiliau digidol ym mhob rhan o Sir y Fflint yn eu gweithdai creadigol.
Ymhlith y rhaglenni eraill a gefnogwyd gan UKSPF i wella sgiliau pobl ifanc ac oedolion yr oedd prosiect LEAP (Learn, Explore, Achieve, Perform) Cyngor Sir y Fflint a chynllun paratoi at gyflogaeth WeGrow y mudiad WeMindTheGap.
Meddai gwneuthurwr cymunedau WeMIndTheGap, Laura Columbine: “Mae arian o’r gronfa UKSPF wedi bod o gymorth allweddol inni barhau i gynnig llwybrau at gyflogaeth i bobl ifanc sy’n ei chael yn anodd canfod gwaith ac sy’n ansicr pa lwybr i’w ddilyn nesaf.”
(O'r chwith i'r dde) myfyrwraig ym Mhlas Derwen, Kayden McDermott, Dan Larkin, rheolwr prosiect LEAP; Gareth Edwards, Tiwtor DT Plas Derwen; Myfyriwr Kyle Edwards a Gareth Hywel, prifathro Plas Derwen
Helpwyd busnesau i weithredu’n fwy effeithiol. Mabwysiadodd 39 sefydliad dechnolegau neu brosesau newydd a gosodwyd offer mewn 12 lleoliad i hyrwyddo’r nod o fod yn gynhyrchwyr carbon isel neu garbon sero. Ac fe ddiogelwyd 16 o swyddi.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Roedd yn wych gweld dylanwad y gronfa UKSPF ymhob rhan o’r sir yn ystod y flwyddyn ychwanegol hon, o wella ardaloedd cymunedol i alluogi busnesau i gyflwyno technolegau datgarboneiddio.
“Wrth edrych tua’r dyfodol, hyderaf y bydd Sir y Fflint yn gweld manteision tymor hir y gefnogaeth a gafwyd wrth i bobl barhau i ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd, mwynhau defnyddio adnoddau lleol a defnyddio offer a phrosesau priodol i sicrhau llwyddiant eu busnesau.”
I ddarganfod mwy am lwyddiannau’r UKSPF yn Sir y Fflint, ewch i’n Straeon Llwyddiant.
Dyrannwyd £4.3m i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer 2025/26 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i barhau â llwyddiant y cynllun a oedd yn rhedeg yn wreiddiol rhwng 2022-25.