Alert Section

Negeseuon gan ein Mentoriad

Mentoriaid yn rhannu eu straeon am gefnogi pobl ifanc.

Ruth

Penderfynais fod yn wirfoddolwr am fy mod i eisiau chwarae rôl yn cefnogi pobl ifanc drwy gyfnodau anodd a heriol yn eu bywydau gyda’r gobaith o gael effaith gadarnhaol.

Heddiw cefais baned o goffi a sgwrs fach gyda’r unigolyn dwi’n gwirfoddoli i’w helpu. Mae gan yr unigolyn dwi’n gwirfoddoli i’w helpu lawer yn mynd ymlaen yn ei bywyd ac yn ymroi gymaint o amser i bawb arall, ac mae’r gallu i fynegi sut mae hi’n teimlo heb gael ei beirniadu yn gallu ei helpu  i gael safbwyntiau ar bob dim. Roedd sesiwn heddiw’n canolbwyntio ar y coleg, gan ei bod hi ar hyn o bryd yn gweithio gartref heb lawer o gymorth.

Beth rydw i’n ei hoffi fwyaf am wirfoddoli yw gweld y wên ar wyneb y person ifanc ar ôl i ni gyfarfod a hynny, weithiau, pan mae’r person ifanc yn methu â gweld unrhyw beth cadarnhaol ar ddechrau’r cyfarfod. 

Fe fyddwn i’n cynghori pobl eraill i roi cynnig ar wirfoddoli oherwydd mae cymaint o bobl ifanc angen cymorth. Gall ychydig oriau'r wythnos wneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau nhw.

Llun myfyriwr gyda gliniadur


Gareth

Penderfynais wirfoddoli i helpu pobl am fy mod eisiau defnyddio fy amser rhydd i wneud rhywbeth a fyddai’n elwa eraill a hefyd yn fy ngwneud i deimlo fy mod i’n cyflawni rhywbeth o werth. 

Yn ystod fy sesiwn mentora ddiwethaf penderfynais fynd â’r person ifanc i chwarae golff oedd yn ffordd dda iddyn nhw deimlo’n fwy hamddenol ac yn barod i sgwrsio.

Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf yw cael y cyfle i ddod i nabod pobl fyswn i byth wedi’u cyfarfod oni bai fy mod i’n gwirfoddoli.  Dwi hefyd yn gwerthfawrogi cael dealltwriaeth o alwedigaethau sy’n gwbl wahanol i fy mhroffesiwn. Byddwn yn cynghori pobl eraill i roi cynnig ar wirfoddoli am ei fod yn ffordd wych i ddatblygu eich hun ac sydd o fudd i eraill.

Llun o berson yn dal clwb golff wrth ymyl pêl ar faes ymarfer


Sarah

Penderfynais fod yn wirfoddolwr ar ôl cyfnod o hunanwerthuso drwy’r cyfnod ffyrlo yn ystod y pandemig, sylweddolais nad oeddwn yn cyfrannu o gwbl i fy nghymuned leol ac roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau gwneud hynny.    A minnau wedi cael plentyndod hapus dwi’n deall nad ydi pob plentyn arall yr un mor lwcus ac roeddwn i’n teimlo os allai roi ryw gyngor/arweiniad/ysbrydoliaeth i un plentyn yn unig yn ystod eu bywyd yna byddai hynny’n beth gwych i’w wneud.  

Roedd ein sesiwn olaf gyda’n gilydd mewn caffi lleol yn mwynhau diod boeth a bisged lle buom yn sgwrsio am ddyheadau, lle y byddai hi’n hoffi byw a pha broffesiwn oedd yn eu diddori hi.  Roedd yn sesiwn “gweledigaeth” hyfryd am sut fywyd y gallai ei gael a beth oedd y cerrig milltir yn ei Map Bywyd ar hyd y ffordd.   Dywedodd ei bod yn mwynhau’r sesiwn yn fawr a’i bod yn dda i ddychmygu’r bywyd y gallai ei gael a rhoddwyd targedau amlwg iddi yn y tymor byr.    

Yr hyn dwi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn wirfoddolwr yw’r amrywiaeth.  Dydi rhywun byth yn gwybod sut eith pethau ac mae’n fy natblygu innau a fy sgiliau o ran hyblygrwydd, gwydnwch a sgiliau cyfathrebu.   Dwi hefyd wrth fy modd yn gweld yr ymddiriedaeth sy’n datblygu rhyngom o’r sesiwn cyntaf a gweld dros amser y ffordd y maen nhw’n dechrau ymlacio mwy ac yn agor allan i chi sydd yn deimlad gwych eu bod nhw’n gallu gwneud hynny.  

Byddwn yn cynghori pobl eraill i roi cynnig ar wirfoddoli am ei fod yn rhywbeth gwych i’w wneud, i roi eich amser (waeth pa mor brysur ydych chi), i feddwl bod yr amser hynny y byddwch yn ei dreulio gyda’r oedolyn ifanc hynny o bosib yn amser sy’n newid bywyd iddyn nhw, ei fod yn ysbrydoli syniad neu frwdfrydedd ynddyn nhw na wydden nhw oedd yn bodoli, efallai ei fod yn rhoi awr iddyn nhw oddi cartref ar gyfer eu hunain ac yn rhoi cyfle iddyn nhw siarad gyda rhywun diduedd.   Mae’n rhoi ymdeimlad o bwrpas a boddhad anferthol i feddwl eich bod wedi helpu rhywun.  Amhrisiadwy.   

Llun o ddau fwg coffi gyda choffi


Eleri

Ar gyfer yr ymweliad olaf gyda’r unigolyn yr oeddwn yn gwirfoddoli i’w helpu dyma ni’n mynd am dro rownd Castell Fflint gan gerdded ar hyd lan y môr a mwynhau’r golygfeydd hyfryd cyn mynd i edrych ar adfeilion y castell. Dyma ni’n gorffen yr ymweliad gyda sglodion o McDonalds yn edrych dros yr aber. 

Penderfynais fod yn wirfoddolwr gyntaf am fy mod eisiau helpu eraill a gwneud rhywbeth o werth, ond roeddwn i hefyd eisiau ennill profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth gwblhau gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan obeithio datblygu gyrfa yn y maes hwn.  Dydw i heb weithio am nifer o flynyddoedd oherwydd cyfrifoldebau gofalu ac astudio felly mae gwirfoddoli wedi fy helpu i fagu hyder i wneud cais am swyddi yn y dyfodol. 

Llun o Gastell y Fflint


Ymgeisiwch Nawr