Cwestiynau cyffredin - erydr a lorĂ¯au graeanu
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu ei bolisi Cynnal a Chadw dros y Gaeaf yn ddiweddar. Mae’r polisi nodi ffyrdd a gaiff eu graeanu os bydd y rhagolygon yn awgrymu y bydd yn rhewi. Drwy hyn, gellir sicrhau bod y Cyngor yn darparu’r un gwasanaeth i’r holl ffyrdd sydd â’r un nodweddion drwy’r sir. Yn dilyn yr adolygiad, penderfynwyd na fyddwn yn parhau i raeanu 3 o’n ffyrdd gwledig os rhagwelir y bydd tarw garw. Mae manylion y ffyrdd dan sylw i’w gweld ar y ddolen sydd ynghlwm. Not Precautionary Treated Maps (PDF 4MB)
1. Pa ffyrdd gaiff eu graeanu’n gyntaf?
Gweld rhagor o wybodaeth am y ffyrdd ar y rhestr flaenoriaeth.
2. Ydi’r Cyngor Sir yn graeanu/clirio’r llwybrau troed?
Gweld rhagor o wybodaeth am glirio llwybrau troed.
3. Pam nad yw fy min halen lleol i wedi cael ei lenwi?
Gweld rhagor o wybodaeth am finiau halen a phentyrrau o raean.
4. A fydd y Cyngor Sir yn darparu rhagor o finiau o raean?
Gweld rhagor o wybodaeth am finiau halen a phentyrrau o raean.
5. Pam nad yw’r holl ffyrdd i feddygfeydd yn cael eu graeanu?
Cawn nifer o geisiadau ac ymholiadau am drin ffyrdd sy’n arwain i feddygfeydd. Caiff y ffyrdd eu blaenoriaethu’n ôl faint o draffig sy’n eu defnyddio a’r mae’r rhan fwyaf o ysbytai ar ffyrdd sy’n cael eu trin. Byddai trin yr holl ffyrdd hyn yn golygu defnyddio adnoddau a fyddai, fel arall, yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau ar ffyrdd prysurach. Byddai effaith sylweddol y gyllideb oherwydd yr adnoddau ychwanegol y byddai eu hangen. Byddwn, fodd bynnag, yn parhau i adolygu’r ceisiadau hyn.
6. Ai’r Cyngor sy’n gyfrifol am raeanu meddygfeydd/canolfannau deintyddion/meysydd parcio ysgolion?
Nage. Cyfrifoldeb y rhai sy’n berchen ar y meysydd parcio, neu’r rhai sy’n eu gweithredu, yw hwn. Gofynnir yn aml i ysgolion a ydynt am gaffael halen gan gyflenwr priffyrdd y Cyngor yn barod ar gyfer y gaeaf. Yr ysgolion eu hunain sy’n gyfrifol am glirio’r eira oddi ar dir yr ysgol.
7. Ydych chi’n graeanu llwybrau bysiau?
Mae’r rhan fwyaf o lwybrau bysiau’n cael eu trin, ond nid pob un – mae gormod ohonynt, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
8. Beth all pobl ei wneud drostynt eu hunain?
Rydym yn darparu biniau halen a phentyrrau o raean drwy’r sir ar ochr ffyrdd nad ydynt yn cael eu trin yn rheolaidd – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn yn caniatáu i bobl wasgaru’r halen eu hunain ar lwybrau troed lleol a ffyrdd gwledig. Edrych ar ragor o wybodaeth am finiau halen a phentyrrau o raean.
9. Fedra’ i glirio rhew/eira oddi ar y ffordd y tu allan i’m cartref/busnes?
Medrwch – gwnewch ar bob cyfrif. Mae biniau halen ar gael er mwyn i breswylwyr a busnesau glirio llwybrau troed. Côd Eira - clirio eira a rhew eich hun (ffenestr newydd)
10. Sut y mae’r halen yn gweithio?
Mae’r halen yn gweithio drwy leihau’r tymheredd y mae dŵr yn rhewi. Mae’n dibynnu ar deiars cerbydau i’w wasgaru ar y ffodd ac i’w gymysgu â’r rhew a’r eira, felly mae angen traffig iddo fod yn effeithiol. Bydd halen yn gweithio ar dymheredd o finws 8-10 gradd Celsius, bydd y ffyrdd yn dal i rewi os bydd y tymheredd yn is na hynny.
Gall glaw olchi’r halen oddi ar y ffyrdd ac, os bydd hynny’n digwydd, maent yn debygol o rewi eto. Hefyd, pan mae glaw yn troi’n eira yn ystod yr awr frys, nid oes modd graeanu’r ffyrdd gan y bydd yr halen yn cael ei olchi ymaith ac nid all y lorïau graeanu weithio oherwydd tagfeydd traffig.
11. Sut a phryd fyddwch chi’n clirio’r ffyrdd?
Yn ystod y gaeaf, cawn ragolygon y tywydd yn rheolaidd sy’n ein helpu ni i benderfynu pryd y mae angen graeanu’r ffyrdd. Mae lorïau graeanu’n cael eu paratoi i ymateb pan fydd y rhagolygon yn darogan rhew neu eira. Os bydd angen, gallwn eu hanfon allan 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Wrth benderfynu anfon nail ai erydr eira ynteu lorïau graeanu allan, byddwn yn ystyried a yw wyneb y ffyrdd yn wlyb ynteu’n sych, a yw glaw ynteu eira’n debygol (ar sail rhagolygon manwl), ac a oes halen ar y ffyrdd eisoes. Golyga hyn y gallwn:
- Raeanu’r ffyrdd hynny sy’n debygol o rewi.
- Gwneud pob ymdrech i drin yr ardaloedd y bydd y tywydd yn effeithio fwyaf arnynt.
- Darparu gwasanaeth effeithlon, cost effeithiol, sy’n ystyried yr amgylchedd dros fisoedd y gaeaf, gan ddefnyddio cyn lleied o halen â phosibl.
Cyn pen 90 munud ar ôl cael cyfarwyddyd i raeanu’r ffyrdd, bydd 14 lori raeanu’n cael eu llwytho a bydd y criwiau’n dechrau ar eu gwaith. Bydd y ffyrdd ar y rhestr flaenoriaeth yn cael eu clirio gyntaf ac, ar ôl clirio nhw, byddwn yn dechrau ar y ffyrdd eraill a’r llwybrau troed. Caiff y gwaith o raenu’r ffyrdd blaenoriaeth ei gwblhau cyn pen 3 awr, fel arfer cyn yr awr frys yn y bore neu fin nos. Byddant yn trin y ffyrdd yn ddi-dor nes y bydd yr eira a/neu’r rhew wedi diflannu - gan gynnwys Diwrnod Nadolig a Dydd Calan.
Mae system dracio ar ein lorïau graeanu i gyd er mwyn medru monitro eu lleoliad a darparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon.
Yn ystod cyfnodau o eira trwm, byddwn yn anfon erydr eira allan yn ogystal â lorïau graeanu. Os bydd yn bwrw eira, neu os yw’r rhagolygon yn awgrymu y bydd yr eira’n casglu, byddwn yn defnyddio’n holl adnoddau gan gynnwys nifer o gontractwyr amaethyddol sydd â chytundeb i ddefnyddio’u tractorau i helpu i glirio’r eira. Yn ystod y gaeaf, bydd aradr eira’n cael ei osod ar bob lori raeanu ac yn ogystal â chlirio’r eira, byddant hefyd yn gwasgaru halen rhag i’r eira gywasgu ac i’w gwneud yn haws clirio’r eira’r wedyn.