Alert Section

Diogelwch cynnyrch


Rhaid i holl nwyddau defnyddwyr sy'n cael eu rhoi ar y farchnad fod yn ddiogel a rhaid iddynt naill ai gydymffurfio â safonau Ewropeaidd neu genedlaethol penodol ar gyfer y mathau o nwyddau ydynt neu ddeddfwriaeth diogelwch nwyddau os nad oes safon benodol yn bodoli.

Mae gan Wasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint ddyletswydd i ymchwilio i bob achos o gynhyrchu neu ddosbarthu nwyddau peryglus yn Sir y Fflint.  Rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd ac yn prynu nwyddau a allai fod yn beryglus er mwyn eu profi.  Mae'n bosibl y byddwn yn atafaelu nwyddau neu'n gwahardd cwmnïau rhag dosbarthu nwyddau a allai fod yn beryglus a, lle bo hynny'n briodol, byddwn yn erlyn pobl sy'n gyfrifol am eu cynhyrchu a'u dosbarthu.

Os ydych yn cynhyrchu, mewnforio neu'n dosbarthu nwyddau ac os hoffech gael cyngor am ddiogelwch nwyddau, ffoniwch ni.

Os ydych yn ddefnyddiwr sy'n dymuno ein hysbysu o fater sy'n ymwneud â nwyddau peryglus, ffoniwch ni.

Ystyriwch – Oedran Y Plentyn

Mae nifer o deganau yn cynnwys rhybuddion sy’n nodi eu bod yn anaddas i blant dan 3 oed, yn aml oherwydd eu bod yn cynnwys darnau mân a allai achosi i blentyn dagu pe bai yn eu rhoi yn ei geg.

Archwiliwch T Labeli

Lle bo’r angen, mae gan gynhyrchwyr rwymedigaeth gyfreithiol i roi rhybudd oedran ar eu teganau. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod defnyddwyr yn archwilio’r tegan a’r cyfarwyddiadau’n fanwl cyn ei brynu er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer oedran y plentyn a fydd yn ei dderbyn yn anrheg.

Ni ddylid prynu na rhoi teganau i blant dan 3 oed os yw’n cynnwys label sy’n rhoi rhybudd oedran tebyg.

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o’r ffaith fod y gyfraith yn gadael i gynhyrchwyr roi rhybuddion oedran ar deganau ar ffurf logo gyda 0-3 a llun wyneb baban anfodlon arno.

Mae’r symbol hwn yn rhybudd i ddefnyddwyr y gallai’r tegan fod yn beryglus i blentyn dan 3 oed. Os yw defnyddwyr yn gweld y symbol hwn ar deganau, dylent fod yn ymwybodol nad yw’r tegan yn ddiogel i blant dan yr oedran hwnnw.

Yn aml, mae prynwyr yn canolbwyntio ar ddyluniad ac ymddangosiad y tegan yn hytrach na’r rhybuddion a’r cyfarwyddiadau sydd ynghlwm wrtho.

Rhaid i deganau fod yn…

O dan Reoliadau (Diogelwch) Teganau 1995, ni ddylai adwerthwyr gyflenwi teganau (sef unrhyw eitem sydd wedi’i ddylunio neu sy’n amlwg wedi’i anelu at blant dan 14 oed) os nad yw’r tegan: 

yn ddiogel ac yn cyrraedd safonau diogelwch caeth

wedi’i labelu â’r marc ‘CE’ sef datganiad gan y cynhyrchwr bod y tegan yn ateb gofynion y Rheoliadau (Diogelwch) Teganau. 

wedi’i labelu ag enw a chyfeiriad y cynhyrchwyr neu’r mewnforwyr. yn cynnwys unrhyw rybuddion perthnasol i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel.

Dylid dilyn y canllawiau canlynol wrth brynu teganau i blant:

Pethau i’w gwneud

  • Dylech brynu o siopau a gan fasnachwyr uchel eu parch 
  • Os ydych yn prynu dros y rhyngrwyd, dylech brynu oddi ar wefannau uchel eu parch i leihau’r risg o brynu teganau peryglus (a allai fod yn rhai ffug)
  • Dylech edrych am arwyddion diogelwch yn ogystal â’r marc “CE” (e.e. ‘Lionmark’ y British Toy and Hobby Association)
  • Dylech ystyried a yw’r tegan yn addas i oedran y plentyn (chwiliwch am rybuddion oedran e.e. Nid yw’r tegan hwn yn addas i blant dan 36 mis oherwydd ei fod yn cynnwys darnau mân)
  • Dylech gadw deunydd pecynnu sy’n cynnwys gwybodaeth diogelwch a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddefnyddio’n ddiogel
  • Dylech archwilio’r tegan yn ofalus am ymylon a chorneli miniog
  • Dylech fod yn wyliadwrus o deganau sy’n cynnwys darnau mân a allai beri i blant ifanc dagu
  • Dylech hysbysu’r Gwasanaeth Safonau Masnach o unrhyw ddiffygion
    peryglus

Pethau i beidio â’u gwneud

  • Peidiwch â phrynu o arwerthiannau cist ceir, gwerthwyr stryd ac ati
  • Peidiwch â phrynu teganau nad ydynt yn cynnwys y marc ‘CE’
  • Peidiwch â rhoi teganau sy’n cynnwys darnau mân a allai beri i blant ifanc dagu
  • Peidiwch â rhoi addurniadau coed Nadolig, bwyd smalio, craceri Nadolig ac ati i blant ifanc
  • Peidiwch â gadael i blant chwarae gyda theganau sydd wedi torri, efallai na fyddant ydynt bellach yn cydymffurfio â safonau diogelwch
  • Cofiwch ofalu nad yw plant ifanc neu fabanod yn cael gafael ar deganau plant hŷn
  • Cofiwch dynnu teganau o fagiau plastig cyn eu rhoi i blant

Y Gwasanaeth Safonau Masnach a diogelwch teganau

Ledled y Deyrnas Unedig, mae adrannau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol yn gweithio’n agos gyda busnesau i sicrhau bod y teganau y maent yn eu cyflenwi yn ddiogel ac yn cyrraedd safonau perthnasol. Caiff nwyddau tebyg eu profi’n rheolaidd i sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei werthu ledled y wlad yn ddiogel. Os caiff teganau peryglus eu darganfod caiff camau eu cymryd i’w tynnu oddi ar y farchnad ac, yn ôl yr angen, caiff camau gorfodi eu cymryd. 

Os oes gan ddefnyddwyr bryderon am ddiogelwch y teganau y maent yn eu prynu, dylent ffonio Cyswllt Defnyddwyr ar 03454 04 05 05.


Cysylltwch â ni

Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133

Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)

E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF

Ewch i:
Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint

Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener