Alert Section

Teithio Cymunedol Sir y Fflint


Mae Cludiant Cymunedol yn ffurf ddiogel, hygyrch, cost effeithiol a hyblyg o deithio. Gellir ei ddatblygu i ymdrin yn uniongyrchol â bylchau mewn darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a chreu buddiannau economaidd a chymdeithasol amlwg sy’n para.

Mae Cludiant Cymunedol yn hynod werthfawr i bobl nad oes ganddynt, am amryw o resymau, fynediad i gar neu gludiant cyhoeddus. Hefyd mae’n hynod bwysig mewn ardaloedd gwledig a threfol, ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion a sefyllfaoedd.

I ymdrin â’r materion hyn mae Cyngor Sir y Fflint wedi datblygu cynllun Teithio Cymunedol Sir y Fflint.

Fel rhan o'r cynllun mae pum ardal wedi eu nodi lle mae angen datblygu darpariaeth wahanol o ran cludiant, ar ffurf Cludiant Cymunedol, neu lle mae bwlch yn y ddarpariaeth bresennol neu lle y gall bwlch fod yn y dyfodol.  Y rhain yw:

  • Dwyrain Sir y Fflint (Higher Kinnerton-Bretton-Brychdyn)
  • Canol Sir y Fflint (Penyffordd-Bwcle ac Argoed-Bwcle)
  • Glannau Dyfrdwy (Northop Hall – Cei Connah)
  • Treffynnon (Brynffordd, Trelawnyd a Gwaenysgor, Carmel a Chwitffordd, Maes Glas, Treffynnon)
  • De a Gorllewin Sir y Fflint (Llanfynydd-Treuddyn-Coed-llai-Yr Wyddgrug a Brychdyn)

Mae amrediad o gynlluniau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd:

Cynlluniau TacsiBws

Gwasanaeth bws cyhoeddus rheolaidd yw tacsibws, gaiff ei redeg gan weithredwr Cerbyd Hacni neu Hurio Preifat yn defnyddio tacsi neu gerbyd hurio preifat. Bydd gwasanaethau tacsibws yn gweithredu yn yr ardaloedd a nodwyd uchod.

Yn union fel gwasanaeth bws rheolaidd mae’n gweithredu ar hyd llwybr penodol ac yn ôl amserlen. Gall defnyddwyr ei ddefnyddio heb drefnu ymlaen llaw, a’i ddal fel arfer mewn mannau aros wedi eu clustnodi gan dalu ffi debyg i ffi bws rheolaidd. Gall teithwyr ddefnyddio eu tocynnau mantais bws.    

Cliciwch ar y dolenni os gwelwch yn dda i gael gwybodaeth am yr amserlen lle mae hynny ar gael:

Higher Kinnerton-Bretton-Brychdyn - Ar hyn o bryd yn gweithredu

Canolfan Cymau i Barc Manwerthu Brychdyn - Amserlen - Ar hyn o bryd yn gweithredu

Penyffordd-Bwcle - Ar hyn o bryd yn gweithredu 

Northop Hall-Cei Connah - Ar hyn o bryd yn gweithredu 


Gwasanaeth Ffonio a Theithio Sir y Fflint

Gwasanaeth drws i ddrws yw hwn yn defnyddio ceir neu fysiau mini. Mae’r gwasanaeth ar gyfer unigolion sydd angen teithio i'w meddygfa neu i apwyntiadau eraill yn ymwneud ag iechyd (e.e. deintydd/optegydd) ac nad ydynt un ai yn gallu defnyddio neu gael mynediad i wasanaethau cludiant prif ffrwd, neu'n ei chael yn anodd i wneud hynny.

Cliciwch ar y ddolen am wybodaeth bellach - Gwasanaeth Ffonioa Theithio 


Cynlluniau Bws Cymunedol  

Mae cyllid grant wedi ei sicrhau drwy’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig i gael dau fws mini ar gyfer datblygu’r cynllun yn ardaloedd Yr Wyddgrug a Threffynnon.  Gellir un ai rhedeg y cynlluniau fel rhai sy'n ymateb i'r galw neu fel gwasanaethau trafnidiaeth llwybr penodol i amserlenni sydd wedi eu cyhoeddi, ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol yn union fel y byddai gwasanaeth bws lleol ac yn cael ei weithredu lle nad yw llwybrau bws masnachol/rhai gyda chymhorthdal yn bosibl.


 

Mae Cludiant Cymunedol yn ffurf ddiogel, hygyrch, cost effeithiol a hyblyg o deithio. Gellir ei ddatblygu i ymdrin yn uniongyrchol â bylchau mewn darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a chreu buddiannau economaidd a chymdeithasol amlwg sy’n para.

Mae Cludiant Cymunedol yn hynod werthfawr i bobl nad oes ganddynt, am amryw o resymau, fynediad i gar neu gludiant cyhoeddus. Hefyd mae’n hynod bwysig mewn ardaloedd gwledig a threfol, ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion a sefyllfaoedd.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaethau i Apwyntiadau Meddygol

Mae gan drigolion Sir Y Fflint fynediad at 2 wasanaeth sy’n darparu cludiant I apwyntiadau meddygol gan gynnwys Deintydd, Meddygon ac Ysbytai Glan Clwyd, Maelor Wrecsam ac Countess Of Chester.

Welsh Border Community Transport

Mae’r gwasanaethau hyn am gost is, ac mae msy o wybodaeth ar gael am y dolenni unigol. Dolen i: Welsh Border Community Transport.

Gwasanaeth Ffonio a Theithio Sir y Fflint

Gwasanaeth drws i ddrws yw hwn yn defnyddio ceir neu fysiau mini. Mae’r gwasanaeth ar gyfer unigolion sydd angen teithio i'w meddygfa neu i apwyntiadau eraill yn ymwneud ag iechyd (e.e. deintydd/optegydd) ac nad ydynt un ai yn gallu defnyddio neu gael mynediad i wasanaethau cludiant prif ffrwd, neu'n ei chael yn anodd i wneud hynny.

Cliciwch ar y ddolen am wybodaeth bellach - Gwasanaeth Ffonioa Theithio 

Gwasanaethau Fflecsi

Gwasanaeth Fflecsi Treffynnon

Gwasanaeth Fflecsi Treffynnon

Gwasanaeth Fflecsi Bwcle ac Ardal

Gwybodaeth Fflecsi Bwcle ac Ardal

Trefniadau Teithio Lleol

LT7 Yr Hob / Coed Llai a LT7 1 2 Treuddyn