Alert Section

Trosolwg Cyffredinol

Flintshire Play Logo (Transparent)

Lle mae’r hwyl yn dechrau!

Yn dilyn llwyddiant ein rhaglen Cynllun Chwarae haf, rydym yn gyffrous i gyflwyno ein darpariaethau newydd ar gyfer yr hydref. Mae ein tîm ymroddedig, sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy’r haf a thu hwnt, yn barod i wneud y dyddiau a’r nosweithiau oer yn fwy pleserus a chwareus. Bydd Darpariaethau Chwarae Hydref Sir y Fflint a Chlybiau Pontio yn cael eu darparu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint a phartneriaid.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau yn cael eu trefnu mewn cydymffurfiaeth â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cynlluniau chwarae mynediad agored yn ddiogel. 


Cynllun Chwarae'r Haf

Safleoedd 3 Wythnos

Wythnosau 1–3

Bore (10:30yb–12:30yp)
  • Bwcle, Parc Llwyn Lyme
  • Gwernymynydd, Maes Hamdden
  • Sandycroft, Cae Chwarae
  • Pont-y-Bodkin, Parc Coed Talon (Llun–Mer)
  • Cymau, Parc Chwarae (Iau–Gwe)
  • Northop, Ysgol Owen Jones
  • Bagillt, Victoria Road
Prynhawn (2:00yp–4:00yp)
  • Bwcle, Ysgol Westwood
  • Yr Wyddgrug, Gas Lane
  • Hope, Ardal Chwarae Queensway
  • Abermorddu, Ysgol Abermorddu (Llun–Mer)
  • Y Ffrith, Ardal Chwarae (Iau–Gwe)
  • Mostyn, Ysgol Bryn Pennant

Wythnosau 4–6

Bore (10:30yb–12:30yp)
  • Bwcle, Common
  • Saltney, Park Avenue
  • Sychdyn, Ardal Chwarae
  • Gwernaffield, Parc Gwernaffield
Prynhawn (2:00yp–4:00yp)
  • Bwcle, Parc Drury
  • Yr Wyddgrug, Parkfields
  • Broughton, Brookes Avenue
  • Bagillt, Parc Wern

Safleoedd 6 Wythnos

Bore (10:30yb-12:30yp)

  • Cei Connah, Parc Canolog
  • Carmel, Ysgol Bro Carmel
  • Castell y Fflint, O flaen y castell
  • Caerwys, Sefydliad Coffa
  • Y Fflint, Coed Onn
  • Maenor Sealand, Ardal Chwarae
  • Mancot, Caeau Chwarae
  • Leeswood, Parc Phoenix
  • Neuadd Llaneurgain, Maes Hamdden
  • Penarlâg, Level Road
  • Trelogan, Ysgol Trelogan / Gronant, Nant-Y-Gro *

*Amserlen Trelogan / Gronant:
Wythnos 1 - Gronant (Llun-Mer), Trelogan (Iau-Gwe)
Wythnos 2 - Trelogan (Llun-Mer), Gronant (Iau-Gwe), yna'n ailadrodd bob yn ail wythnos

Prynhawn (2:00yp-4:00yp)

  • Holway, Meadowbank
  • Shotton, Cae'r 33 Club
  • Mynydd Isa, Ardal Chwarae Watts Dyke / New Brighton, Ardal Chwarae New Brighton *
  • Carmel, Ysgol Bro Carmel
  • Y Fflint, Parc Cornist
  • Y Fflint, Albert Avenue
  • Flint Mountain, Ardal Chwarae
  • Greenfield, Cae'r Ganolfan Gymunedol
  • Garden City, Welsh Road
  • Aston, Parc Gary Speed
  • Pen-y-ffordd, Ardal Chwarae Millstone
  • Penyffordd (Treffynnon), Ardal Chwarae
  • Rhosesmor, Ardal Chwarae
  • Penarlâg, Caeau Chwarae Gladstone

*Amserlen Mynydd Isa / New Brighton:
Wythnos 1 - New Brighton (Llun-Mer), Mynydd Isa (Iau-Gwe)
Wythnos 2 - Mynydd Isa (Llun-Mer), New Brighton (Iau-Gwe), yna'n ailadrodd bob yn ail wythnos

Sesiwn Gyda'r Nos

Prynhawn (4:30yp-6:30yp)
  • Queensferry, Ty Calon

Calendr Amser Tymor

Dydd Llun

Holway, Meadowbank Ardal Chwarae: 4pm - 5:30pm

Maes Glas, Canolfan Ieuenctid: 4pm - 5:30pm

Dydd Mawrth

Sealand, Canolfan Ieuenctid: 4pm - 5:30pm

Dydd Mercher

Penyffordd (Treffynnon), Ardal Chwarae: 4pm - 5:30pm

Dydd Iau

Coed-llai, Canolfan Ieuenctid: 4pm - 5:30pm

DIM COST

Bydd yr holl sesiynau am ddim.

OEDRANNAU

Darpariaethau Chwarae – 5 – 12 mlwydd oed
Clybiau Pontio – 9 – 13 mlwydd oed 

CYSYLLTWCH Â
Cymraeg:
 
DatblyguChwarae@siryfflint.gov.uk /
01352 704154

Saesneg: 
PlayDevelopment@flintshire.gov.uk /
01352 704154

Bydd y sesiynau chwarae’n cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint.

Ymgeisiwch Rŵan

Gall y ffurflen gymryd mwy o amser na'r arfer i lwytho oherwydd y galw mawr, byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.

 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw chwarae peryglus?

Mae Chwarae Peryglus yn bwysig i ddatblygiad plant, mae’n eu galluogi i herio eu hunain, arbrofi gyda chyfyngiadau, goresgyn ofnau ac archwilio ffiniau. Gall Chwarae Peryglus gynnwys dringo, neidio, cydbwyso, llithro, siglo a mathau eraill o chwarae.  Bydd ein tîm yn sicrhau bod eich plentyn yn cael cyfle i gael mynediad at chwarae peryglus dan oruchwyliaeth ddiogel. 

Beth yw chwarae mynediad agored dan oruchwyliaeth?

Mae Mynediad Agored yn cyfeirio at allu plant i chwarae’n rhydd a mynychu cynlluniau chwarae a gadael fel y mynnant.   Bydd ein staff yn annog plant i aros ar y safle, ond rydym hefyd yn annog rhieni/gwarcheidwaid i drafod eu disgwyliadau gyda’r plentyn cyn mynychu.   Mae fyny i chi benderfynu p’un a fydd eich plentyn yn dilyn eich cyfarwyddiadau neu beidio. 

Mae Chwarae Dan Oruchwyliaeth yn cyfeirio at gyfrifoldeb y staff.   Eu gwaith nhw yw goruchwylio er mwyn sicrhau fod gan blant amgylchedd diogel i chwarae.  Cynghorir staff fel rhan o’u hyfforddiant i roi’r hawl i blant chwarae heb ymyrraeth oedolion, gan ymuno os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny. 

A oes rhaid i mi adael fy mhlentyn?

Nag oes, mae croeso i chi aros o gwmpas gyda’ch plentyn, a chewch ddod â phicnic gyda chi a mwynhau cymdeithasu gydag eraill. 

Ble a phryd mae’r Cynlluniau Chwarae’n cael eu cynnal?

Mae sesiynau bore a phrynhawn yn cael eu cynnal ar draws Sir y Fflint, gweler am amseroedd a rhestr o safleoedd.  

Sicrhewch eich bod hefyd yn cofrestru eich plentyn ymlaen llaw ar-lein ar gyfer bob safle.  Gallwch eu cofrestru ar gyfer nifer o safleoedd os ydych yn dymuno iddynt fynychu mwy nag un. 

Nid yw fy mhlentyn yn 5 oed eto?

Yn anffodus rydym ond yn cael goruchwylio plant 5 oed a hŷn, ond mae croeso i chi aros gyda nhw ar y safle.