Alert Section

Grant Cymorth Ychwanegol a Ariennir a Grant Offer / Adnoddau / Hyfforddiant 2023 - 2024


Diben y grantiau hyn yw i alluogi plant gydag Anghenion Cymorth Ychwanegol i gael mynediad at a chyfranogi’n llawn mewn gofal plant. Mae’n rhaid i’r ceisiadau gael eu cyflwyno gan y darparwr gofal plant.

Fe fydd y grantiau hyn yn cefnogi anghenion gofal plant a chwarae plant a phobl ifanc rhwng 0-18 oed.

 Rhaid i’r ceisiadau gael eu cefnogi gan ymarferydd/gweithiwr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant neu addysgol sy’n deall ac yn gallu canfod anghenion y plentyn. Os nad oes datganiad cefnogol ar gael cysylltwch ag aelod o’n tîm ar 01352 703930 i ofyn am ymweliad gan ein Swyddog Broceriaeth Gofal Plant i asesu anghenion y plentyn.

Fe all taliad ddechrau o'r dyddiad y cymeradwyir y grant. Mae cyllid cyfyngedig ar gael felly efallai na fyddwn yn gallu ariannu pob cais.

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer y canlynol:

1. Cyllid ar gyfer Gweithiwr Chwarae Ychwanegol i ddarparu cefnogaeth 1:1 ar gyfer y plentyn – mae'n bosibl y bydd rhai plant angen cefnogaeth ychwanegol gan aelod o staff ar gyfer rhan neu’r holl amser maent gyda’r darparwr gofal plant.

Uchafswm y grant yw £10 yr awr. Rhaid i unrhyw gost ychwanegol gael ei ysgwyddo gan y darparwr gofal plant. Bydd y taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r darparwr gofal plant a hynny yn dymhorol.

Bydd y Tîm Datblygu Gofal Plant yn monitro'r grant ar hap bob tymor i gasglu adborth am eich profiad o'r grant. Fodd bynnag, os bydd amgylchiadau’n newid yn y cyfamser a’ch bod yn credu nad oes angen y grant arnoch mwyach, cysylltwch â ni ar 01352 703930 neu e-bostiwch childcaredevelopmentgrants@flintshire.gov.uk’ 

Gwnewch gais am y grant Cymorth a Ariennir Ychwanegol yma

2. Offer / Adnoddau – efallai y bydd rhai plant gydag Anghenion Cymorth Ychwanegol angen offer / adnoddau ychwanegol i’w galluogi i gymryd rhan yn llawn yn eich lleoliad gofal plant. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y plentyn, ond gall gynnwys deunyddiau dysgu ychwanegol neu offer chwarae arbenigol.

Fe ofynnir am brawf ffotograffig eich bod wedi derbyn yr holl eitemau o fewn 4 wythnos o dalu'r grant yn ogystal â chopïau o'r holl dderbynebau.

Gwnewch gais am y Grant Offer / Adnoddau yma

3. Hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant – Gall hyn gynnwys hyfforddiant ar anghenion meddygol/gofal iechyd penodol neu hyfforddiant cyffredinol sydd â chysylltiad uniongyrchol â darparu gofal i blentyn penodol gydag anghenion cymorth ychwanegol. I drafod unrhyw geisiadau yn ymwneud â hyfforddiant cysylltwch â’n Tîm Datblygu Gofal Plant ar 01352 703930

I gael rhagor o gymorth gydag unrhyw gais am grant cysylltwch â ni ar 01352 703930 neu ebostiwch childcaredevelopmentgrants@flintshire.gov.uk