A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015?
A fyddan nhw’n 11 oed erbyn 31 Awst, 2026?
Os felly, bydd eich plentyn yn cael y cyfle i ddechrau ym Mlwyddyn 7 mewn ysgol Uwchradd ym mis Medi 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ddechrau Blwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi 2026 oedd 3ydd Tachwedd 2025.
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ar 2il Mawrth 2026.
Gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu
Gan eich bod bellach yn gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (5ed Ionawr 2026), ni ellir prosesu’r cais tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (2il Mawrth 2026).
Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais rhwng 1af Medi 2025 a 5ed Ionawr 2026, byddwch yn cael canlyniad hwn ar y dyddiad cynnig (2il Mawrth 2026).
Bydd rhagor o ddiweddariadau ynghylch y cais newydd hwn yn unol â’r amserlen isod.
Amserlen ar gyfer derbyniadau
| Cyfnod | Anfonwyd y cynnig gan |
|
Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 6ed Ionawr a 31ain Mawrth
|
E-bost yn rhoi gwybod am y dyraniad wedi’i anfon ar neu cyn 1af Mai |
|
Ceisiadau a dderbyniwyd rhwng 1af Ebrill a 30ain Ebrill
|
E-bost yn rhoi gwybod am y dyraniad wedi’i anfon ar neu cyn 1af Mehefin |
|
Ceisiadau a dderbyniwyd unrhyw bryd ar ôl 30ain Ebrill
|
Cynnig yn cael ei anfon wrth gael ei brosesu ar ôl 1af Mehefin |
Os oes gennych chi gwestiwn, fe gewch chi ddod o hyd i Cwestiynau Cyffredin yma
Sylwch – Os hoffech wneud cais am ysgol yng Nghaer a Gorllewin Caer, gwnewch eich cais yn uniongyrchol i dderbyniadau ysgolion Caer a Gorllewin Caer – ni allwn brosesu na rhannu data unrhyw geisiadau ar gyfer unrhyw ysgol yng Nghaer a Gorllewin Caer.
Os ydych yn drigolyn Sir Ddinbych neu Wrecsam ac yn dymuno gwneud cais am ysgol yn Sir y Fflint, gwnewch eich cais drwy eich Awdurdod Lleol cartref, a bydd y ceisiadau’n cael eu rhannu gyda ni.
Sylw – Os ydych yn creu cyfrif gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost @icloud neu @me, ni fydd ein system yn anfon tocyn i gadarnhau eich cyfrif.
Felly, anfonwch e-bost at derbyniadau@siryfflint.gov.uk gan ofyn i’ch cyfrif gael ei gadarnhau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Gwneud cais am le ym mlwyddyn 7 hwyr
Addysg Cyfrwng Cymraeg
Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.
Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.
Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg
Yr amserlen ar gyfer derbyn i Flwyddyn 7 yw:
Amserlen ar gyfer derbyniadau Blwyddyn 7
| Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni: | Cyfnod i’r rhieni ystyried: | Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni: | Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd: | Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”) |
|
01/09/25
7yb
|
01/09/25 - 03/11/25 |
03/11/25 |
04/11/25 - 05/01/26 |
02/03/26
8yb
|
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (5 Ionawr 2026) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (2 Mawrth 2026).