A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024?
A fyddan nhw’n 3 oed erbyn 31 Awst, 2027?
Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth meithrin ym mis Medi 2027.
Bydd y cais ar gyfer Meithrin ar gael o Ddydd Llun 4 Ionawr 2027.
Ni fydd o’n bosib gwneud cais cyn y dyddiad yma.
Bydd y ffurflen cais ar gael o 4 Ionawr 2027 ar y tudalen yma.
Wrth wneud cais am Feithrinfa ym mis Medi 2027, byddwch yn ymwybodol o'r canlynol:
- Cynigir addysg feithrin yn ein hysgolion cynradd ar sail sesiynau dwy awr a hanner, bum gwaith yr wythnos, yn ystod y flwyddyn ysgol.
- Nid yw addysg feithrin wedi'i hariannu ar gael mewn unrhyw leoliad gofal plant arall.
- Nid yw mynychu dosbarth Addysg Gynnar wedi’i Hariannu mewn Ysgol Gynradd benodol yn gwarantu y bydd plentyn yn cael ei dderbyn i ddosbarth Feithrin yr ysgol honno. Bydd angen gwneud cais o’r newydd.
- Mae angen i chi wneud cais erbyn y dyddiad cau i gael eich ystyried fel cais ar amser.
- Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau 'hwyr'; mae hyn yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i geisiadau ar amser a dderbynnir ar ôl y pwynt hwn.
- Ni ellir prosesu unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y cyfnod dyrannu tan ar ôl Diwrnod y Cynnig.
Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Meithrin yw
Amserlen ar gyfer derbyniadau meithrin
| Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni yn yr wythnos yn dechrau: | Cyfnod i’r rhieni ystyried: | Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni: | Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd: | Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”) |
|
04/01/27
|
04/01/27 - 15/02/27 |
15/02/27 |
16/02/27 - 22/03/27 |
05/05/27
|
Sylwch
Mae'r cais hwn ar gyfer meithrinfa ysgol yn unig ac nid Chyllid Gofal Plant
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant cliciwch yma.
Os oes gennych chi gwestiwn, fe gewch chi ddod o hyd i Cwestiynau Cyffredin yma.