Gwasanaeth Cynllunio Gogledd Cymru (Mwynau a Gwastraff)
Cyflwyniad
Mae Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru yn darparu arbenigedd cynllunio yn bennaf ar faterion mwynau a gwastraff i Awdurdodau Cynllunio Lleol ar draws Gogledd Cymru ac yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r gwasanaeth cynllunio a rhennir yn arbenigo mewn materion mwynau a gwastraff ond gall hefyd ymdrin â neu ddarparu cefnogaeth/adnoddau ychwanegol i Reolaeth Datblygu mewn perthynas â delio efo datblygiadau cynaliadwy, carbon isel a phrosiectau cipio a chadw carbon, a datblygiadau isadeiledd mawr ar ran eu hawdurdodau partneriaeth.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys wyth ardal Awdurdod Cynllunio Lleol:
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Gwynedd
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Cyngor Sir y Fflint (Awdurdod Cynnal)
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Sir Powys (Ardal y Gogledd)
Gellir cysylltu â’r gwasanaeth a rennir trwy mineralsandwaste@NorthWalesPlanning.wales
Caiff y cytundeb gwasanaeth ei danategu gan gontract gwasanaeth, rhwng yr awdurdod cynnal a’r awdurdodau lleol partneriaeth.
Swyddogaethau Craidd y Gwasanaeth
Mae swyddogaethau craidd y gwasanaeth yn cynnwys:
- Drafftio cyngor cyn ymgeisio ar faterion mwynau a gwastraff.
- Delio â cheisiadau cynllunio mwynau a gwastraff (gan gynnwys cyflwyno ceisiadau i Bwyllgor Cynllunio).
- Cynnal gwaith monitro safleoedd mwynau a gwastraff a llunio adroddiadau monitro taladwy.
- Llunio argymhellion cwmpasu a sgrinio Asesiadau Effaith Amgylcheddol ar gyfer materion mwynau a gwastraff.
- Delio ag Adolygiad Hen Ganiatâd Mwynau.
- Cynnal ymchwiliadau gorfodaeth mwynau a gwastraff/casglu tystiolaeth.
- Drafftio rhybuddion gorfodaeth berthnasol ar gyfer safleoedd mwynau a gwastraff.
- Darparu mewnbwn polisi mewn perthynas â mwynau a gwastraff i’r broses Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Mae’r gwasanaeth yn darparu arbenigedd ar gyfer datblygiadau mwynau a gwastraff ond hefyd yn gallu delio â gwaith eraill heb fwynau a gwastraff, megis Prosiectau Ynni Adnewyddadwy, Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, Prosiectau Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, a digomisiynu Safleoedd Pŵer Niwclear.
Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRAWP) yn weithgor technegol gydag aelodaeth swyddogion o’r 7 Awdurdod Cynllunio Mwynau*, a chynrychiolwyr o Gymdeithas Cynhyrchion Mwynau, British Aggregates Association, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Arolwg Daearegol Prydain.
Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer Cyngor Sir y Fflint yw Cadeirydd y Gweithgor a Hannah Parish, Rheolwr Gwasanaeth y Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru yw Ysgrifennydd Technegol y Gweithgor.
Cynhyrchir adroddiad blynyddol er mwyn darparu data a gwybodaeth ar werthiannau, allbwn ac angen ar draws y rhanbarth. Mae copïau o’r adroddiadau hyn ar gael o wefan Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru. Fel arall, maent ar gael ar gais, anfonwch e-bost at y Gwasanaeth a Rennir.
*Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Monitro Safleoedd Mwynau a Gwastraff Taladwy
Mae Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru yn ymdrechu i feithrin perthnasau gweithio da gyda budd-ddeiliaid perthnasol yn dilyn cymeradwyo caniatâd cynllunio. Gall fonitro safleoedd osgoi problemau rhag datblygu a bod yn addysgwr cadarnhaol o arferion da. Trwy fonitro safleoedd ceisiwn:
- ganfod problemau posibl yn gynnar er mwyn osgoi a'u hatal rhag datblygu’n ymhellach.
- lleihau’r angen ar gyfer ymgymryd camau gorfodaeth neu gamau eraill
- adolygu penderfyniadau a chytundebau cynllunio a wneir gyda’r cyngor sir
- sicrhau mesurau lliniaru ar gyfer y datblygiad a gyflawnir
- hwyluso cyswllt a dialog rheolaidd rhwng gweithredwyr, y cyhoedd / cynrychiolwyr cymunedol lleol a swyddogion y Cyngor.
Mae rheoliadau’r llywodraeth yn galluogi’r Cyngor i godi tâl am fonitro amodau pan maent yn ymwneud yn uniongyrchol ag ennill a gweithio ar ganiatâd mwynau neu ganiatâd tirlenwi uniongyrchol.
Mae swyddogion yn pennu niferoedd targed o ymweliadau ar gyfer pob safle ar sail ‘asesiad risg’ ar gyfer pob safle gan dynnu ar y pwyntiau canlynol:
- sensitifrwydd y lleoliad
- maint a math o ddatblygiad
- nifer a chymhlethdod yr amodau cynllunio
- nifer y materion sydd angen mewnbwn monitro
- cyfnod a chyflymder y datblygiad
- torri rheoliadau cynllunio sydd yn neu wedi eu harsylwi
- cwynion a dderbynnir ar gyfer y safle
Mae cyfle i weithredwyr drafod sut mae’r Cyngor wedi cyrraedd ei benderfyniad ar gyfer nifer yr ymweliadau a drefnir bob blwyddyn. Yn dilyn gosod targed ar gyfer nifer yr ymweliadau bob blwyddyn, mae swyddogion yn cadw amlder yr ymweliadau gwirioneddol o dan adolygiad ac yn addasu’r amlder, gan ystyried y pwyntiau uchod.
Adrodd am dorri rheolyddion cynllunio (Datblygiad Mwynau a Gwastraff)
Os ydych chi’n amau bod torri amod yn digwydd, neu fod datblygiad mwynau anawdurdodedig yn digwydd ar safle, cysylltwch â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd achosion sy’n berthnasol i’r gwasanaeth a rennir yn cael eu pasio i’r gwasanaeth fel bo’n briodol ar gyfer adolygiad / ymchwiliad.