Mae’n bwysig, pan fyddwn ni ar ein mwyaf bregus, ein bod ni’n derbyn cefnogaeth yn yr iaith rydyn ni’n teimlo fwyaf cyfforddus.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae’n bwysig pan mae pobl yn fwyaf bregus bod y gefnogaeth maent yn ei derbyn yn yr iaith sy’n cefnogi eu hanghenion nhw orau.
Yn 2012 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ‘Mwy Na Geiriau’, strategaeth ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cydnabod bod darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn fater o ddewis yn unig ond hefyd yn fater o angen.
Er bod hyn yn berthnasol i bawb, mae’n flaenoriaeth yn arbennig ar gyfer
- plant a phobl ifanc,
 
- pobl hŷn,
 
- pobl ag anableddau dysgu, 
 
- defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, 
 
- pobl sy’n byw gyda dementia, 
 
- pobl sy’n cael mynediad i wasanaethau strôc, 
 
- pobl sy’n cael mynediad i wasanaethau therapi lleferydd ac iaith.
 
Dylai bawb allu cael mynediad i’r gwasanaethau maent eu hangen yn y Gymraeg heb orfod gofyn amdano.
Mae ‘Mwy Na Geiriau’ yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a’u teuluoedd.