Alert Section

Llais Rhieni a Gwirfoddoli

Llais Rhieni Sir y Fflint

Mae arnom ni eisiau i rieni gymryd rhan yn y broses o siapio’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ac mae eich barn yn bwysig i ni.  Rydym yn clywed gan blant mewn nifer o ffyrdd gwahanol, megis mewn sgyrsiau, digwyddiadau, fforymau ac ymgynghoriadau.

Bydd y manylion yn cael eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu gallwch gysylltu â ni ar earlyyearsteam@siryfflint.gov.uk.

Cefnogwyr Rhieni Sir y Fflint 

Rhieni sy’n rhoi ychydig oriau’r wythnos i siarad gyda rhieni eraill am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt yw Cefnogwyr Rhieni. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn: 

  • siarad gyda rhieni/gofalwyr eraill am y buddion o ddefnyddio gwasanaethau; 
  • ateb cwestiynau am eich profiadau chi o ddefnyddio gwasanaethau; 
  • helpu rhieni/gofalwyr eraill i wneud penderfyniadau dros eu hunain a’u plant; ac
  • atgyfeirio rhieni/gofalwyr at wasanaethau lleol 

ac os ydych: 

  • yn rhiant neu’n ofalwr yn byw yn Sir y Fflint; 
  • wedi cael profiad cadarnhaol yn defnyddio gwasanaethau;
  • ag ychydig o oriau’r wythnos i’w rhoi; neu 
  • yn awyddus i gwrdd â phobl newydd a chael profiad gwerthfawr 

Yna, byddem yn falch o glywed gennych. I ddarganfod mwy am y Cynllun Cefnogwyr Rhieni, anfonwch e-bost atom ar earlyyearsteam@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 07879 432282 i siarad gyda Jen, neu gallwch anfon neges atom ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. 

Hyrwyddwyr Rhieni Sir y Fflint - Parent Champions Flintshire

Rwy’n mwynhau gweithio gyda rhieni eraill yn fawr, a darparu cymorth a chanllawiau a rhannu profiadau 

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau - Arweinwyr Grwpiau Rhieni

  • Cynhelir bob grŵp EPEC gan Arweinwyr Grwpiau Rhieni hyfforddedig. Rydym yn cynnal yr hyfforddiant Arweinwyr Grwpiau Rhieni yma yn Sir y Fflint unwaith y flwyddyn (fel arfer yn ystod tymor mis Medi).
  • Mae’r hyfforddiant yn cynnwys 10 diwrnod llawn dros gyfnod o 10 wythnos ac mae crèche ar gael o bryd i’w gilydd.
  • Bydd rhieni hefyd yn datblygu’r wybodaeth, sgiliau a’r hyder gofynnol i hwyluso ein grwpiau i rieni eraill. Mae’r hyfforddiant wedi’i anelu at rieni sydd wedi cymryd rhan mewn grŵp EPEC neu grwpiau magu plant eraill yn y gorffennol, gan ein bod yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o gael profiad o’r grŵp yn gyntaf, ac mae nifer o rieni’n teimlo ei fod yn brofiad gwerthfawr iawn ac felly’n awyddus i rannu’r hyn a ddysgwyd ganddynt gydag eraill. Mae’n ffordd wych i ennill hyfforddiant a sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn ogystal â pherthnasau!

Pa hyfforddiant a chefnogaeth fyddwch yn eu derbyn?

  • Hyfforddiant Arweinydd Grŵp EPEC 6-10 diwrnod 3 credyd, lefel 2 achrededig rhagarweiniol gyda chefnogaeth crèche.
  • Cyfle i fynychu hyfforddiant ychwanegol gyda’r Cyngor - Diogelu, Diogelu Data, Cam-drin Domestig a llawer mwy
  • Goruchwyliaeth barhaus bob yn ail wythnos i gynnal ansawdd, adolygiadau diogelu a materion cwrs.
  • Arsylwad goruchwyliwr o arferion Arweinwyr Grwpiau Rhieni a darpariaeth y cwrs.
  • Sesiynau datblygu parhaus i gyfnewid sgiliau, myfyrio ar arferion, ailystyried ac adolygu strwythurau a threfniant y cwrs, a chyd-ddylunio datblygiadau newydd.

Gobeithiwn ymestyn y cynnig wrth i ragor o rieni wirfoddoli a rhoi i’w cymunedau. Cofiwch gadw golwg!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr hyfforddiant, llenwch y ffurflen drwy wasgu’r botwm isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi.

Cofrestru eich diddordeb

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau

“Diolch… Rwyf wedi mwynhau’n fawr ac mor falch fy mod wedi cofrestru. Mae sylweddoli fy mod yn gallu gwneud hyn a chlywed adborth gan y rhieni wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y grŵp nesaf nawr.”

“Mae bod yn Arweinydd Grŵp Rhieni’n golygu cymaint i mi! Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi magu hyder, mae hefyd wedi fy helpu i ailymweld ag offer y cwrs a’u defnyddio’n barhaus”