Grŵp Cyn-Geni Solihull
Y daith at fod yn rhiant. Deall beichiogrwydd, esgor, genedigaeth a'ch babi.
- Eich helpu chi a’ch babi trwy feichiogrwydd a genedigaeth yn cynnwys ymlacio;
 
- dod i adnabod eich babi yn y groth;
 
- chi, eich babi a chamau esgor ar eni;
 
- eich helpu chi a’ch babi trwy’r beichiogrwydd; a
 
- bwydo’ch babi.
 
Mae Grŵp Cyn-Geni Solihull yn cael ei gynnal dros 5 wythnos i ddarpar famau, eu partneriaid, aelodau teulu eraill a’r rhai a fydd yn bresennol yn ystod yr enedigaeth.
 
Tylino Babanod
Dysgu'r symudiadau tylino sylfaenol a mwynhau amser arbennig i gyfathrebu gyda'ch babi, er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo cariad, gwerthfawrogiad a pharch.
Gall y buddion gynnwys:
- helpu eich babi i ymlacio a chysgu’n hirach;
 
- llai o grïo a gofid emosiynol;
 
- cael gwared â gwynt, colig, rhwymedd a phoen dannedd;
 
- helpu i greu cwlwm agosrwydd ac ymlyniad; a
 
- dod i ddeall mwy am y ffordd y mae eich babi’n ymddwyn, eu crïo ac iaith eu corff.
 
Mae 5 sesiwn Tylino Babanod.
 
Dewch i Goginio
Dysgwch am faeth a datblygwch eich sgiliau coginio mewn ffordd hwyliog ac ymarferol.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- diogelwch a hylendid bwyd;
 
- canllawiau bwyta'n dda;
 
- deall braster, siwgr, halen a ffibr;
 
- deall labeli bwyd;
 
- addasu ryseitiau a chynllunio bwydlen; a
 
- bwyta’n iach heb wario gormod.
 
Mae 6 sesiwn Dewch i Goginio.
 
Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol
Mae plant yn rhoi cymaint o foddhad ac yn llawn hwyl, ond gall y gwaith o edrych ar eu holau fod yn straen ac yn heriol.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- deall ymddygiad eich plentyn;
 
- gwybod pa deimladau sydd y tu ôl i ymddygiad;
 
- archwilio gwahanol ddulliau i berthnasoedd teuluol cadarnhaol;
 
- datblygu cydweithrediad eich plentyn; a’r
 
- dysgu pa mor bwysig yw gofalu amdanom ni’n hunain.
 
Mae 10 sesiwn Meithrin Cysylltiadau Teuluol.
 
Babis GroBrain
Dysgwch sut mae ymennydd eich babi’n datblygu a sut gallwch gefnogi eu hymennydd a gwneud cysylltiadau newydd i sefydlu sylfeini cadarn. Bydd plant gyda sylfeini cadarn yn cael dechrau gwell mewn bywyd.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- datblygiad yr ymennydd; 
 
- creu cwlwm agosrwydd ac ymlyniad;
 
- adnabod arwyddion a chrïo eich babi; 
 
- rheoli crïo a thrallod;
 
- sgwrsio gyda’ch babi, darllen a chwarae; a
 
- lles emosiynol i rieni. 
 
Cyn geni - 12 mis.
Mae 4 sesiwn Babis GroBrain.
 
Babanod GroBrain
Dysgwch sut mae ymennydd eich plentyn yn datblygu a sut gallwch gefnogi eu hymennydd a gwneud cysylltiadau newydd i sefydlu sylfeini cadarn. Dysgwch sut gallwch helpu eich plentyn i ddeall eu teimladau a rheoli eu hymddygiadau mewn modd emosiynol iach.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar;
 
- datblygiad ymennydd plant bach;
 
- ymlyniad a datblygiad emosiynol;
 
- helpu plant bach i reoli eu hymddygiad;
 
- cyfathrebu, chwarae a bod yn barod i’r ysgol; a
 
- lles emosiynol i rieni. 
 
1-3 oed.
Mae 6 sesiwn Babanod GroBrain.
 
Dewch i Siarad â Phlant Dan 5
Sesiynau hwyliog a rhyngweithiol i ddysgu sut i helpu eich plentyn ddatblygu eu gallu i ddeall, gwrando a siarad.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- beth yw cyfathrebu, a’r sgiliau sydd eu hangen?;
 
- dysgu sut i helpu eich plentyn ddatblygu sgiliau siarad;
 
- deall sut i ryngweithio gyda’ch plentyn ar lefel briodol; a
 
- deall y cyswllt rhwng chwarae ac iaith.
 
Cynhelir sesiwn Siarad gyda Phlant dan 5 oed mewn 7 sesiwn.
 
Sgwrsio gyda’ch Babi
Oedran 3 mis i 12 mis.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- gweld, cyswllt llygaid a rhannu sylw;
 
- teimlo ac archwilio gweadau;
 
- gwneud sŵn, canu a mwynhau cerddoriaeth;
 
- chwarae â dŵr;
 
- cymryd tro; ac
 
- archwilio a symud
 
Cynhelir Siarad gyda’ch Babi mewn 7 sesiwn.
 
Rhieni Chwareus
Sesiynau llawn hwyl i fynnu sylw at bwysigrwydd chwarae a meithrin ymlyniad trwy chwarae.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- deall datblygiad plentyn;
 
- deall datblygiad yr ymennydd ac ymlyniad; a
 
- deall sut mae chwarae yn cefnogi datblygiad iach.
 
Bydd Rhieni Chwareus yn cael ei gynnwys mewn 2 sesiwn.
 
STEPS
Datgloi eich potensial a magu eich hyder.
Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- cael edrychiad newydd ar fywyd;
 
- dangos faint ydych yn gallu ei gyflawni;
 
- rhoi’r dulliau i chi gyflawni pethau; ac
 
- eich helpu i sylweddoli bod bywyd yn llawn cyfleoedd a sut allwch chi eu dilyn â hyder.
 
Darperir STEPS mewn 12 sesiwn.