Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i gymhwyso fel ymarferydd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant a Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant.
Mae’r cymwysterau hyn yn addas ar gyfer staff a gyflogir (neu a fydd yn cael eu cyflogi o ddyddiad dechrau’r hyfforddiant) gan leoliadau sy’n aelodau o Fudiad Meithrin, Meithrinfeydd Dydd preifat cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Hyd y cwrs yw 18 mis a bydd rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi gan leoliad am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Mudiad Meithrin - Cam wrth Gam