Alert Section

Diogelu


Mae diogelu oedolion, pobl ifanc a phlant yn flaenoriaeth i’r Cyngor; mae’r Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldebau i gadw pobl yn ddiogel o ddifrif.  Mae diogelu yn cynnwys popeth y gall Cyngor ei wneud i gadw pobl yn saff, gan gynnwys lleihau’r risg o niwed a damweiniau, gweithredu i ymdrin â phryderon am ddiogelwch a sicrhau fod pobl yn tyfu i fyny ac yn byw mewn amgylchiadau diogel.  Mae angen i bawb wybod beth yw cam-drin, sut i’w adnabod, a bod gennym ni oll gyfrifoldeb ar y cyd i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl. 


Adnabod

Mae cam-drin yn ymddangos mewn nifer o ffyrdd a gall fod mwy nag un math o gam-drin yn digwydd ar yr un amser.  Mae’r canlynol yn rai enghreifftiau o gam-drin: 

Camfanteisio troseddol 

Wedi eu rheoli a’u cam-drin yn aml, gorfodir dioddefwyr i gyflawni troseddau megis tyfu canabis neu fod yn lleidr poced yn erbyn eu hewyllys.   

Caethwasanaeth domestig

Gorfodir dioddefwyr i wneud gwaith tŷ a gwaith beichus mewn cartrefi preifat am ychydig iawn o dâl neu ddim o gwbl, symudiad dan gyfyngiadau, amser rhydd prin iawn neu ddim o gwbl ac ychydig iawn o breifatrwydd, gan gysgu yn eu man gwaith yn aml iawn.  Gan ei fod yn digwydd mewn cartrefi preifat, mae’n ffurf gudd iawn o gam-fanteisio.   

Cam-drin ariannol

Dwyn arian neu eiddo, o dan bwysau i roi arian i bobl neu newid ewyllys, camddefnyddio budd-daliadau, dim mynediad at arian. 

Llafur gorfodol

Dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio yn erbyn eu hewyllys, gweithio oriau hir iawn yn aml am ychydig iawn neu ddim cyflog mewn amodau ofnadwy gan ddioddef bygythiadau geiriol neu gorfforol o drais yn eu herbyn neu eu teuluoedd. 

Esgeulustod

Anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol, atal bwyd neu ddiod, dim mynediad i wasanaethau iechyd neu gymdeithasol addas, gorfod gwisgo dillad gwlyb neu fudr.  

Camdriniaeth gorfforol

Cael eich taro neu slapio, derbyn y feddyginiaeth anghywir ar bwrpas, cael eich cloi i mewn neu orfodi i fwyta.  

Cam-drin seicolegol

Cael eich bygwth, dim yn cael unrhyw ddewisiadau, cael eich bwlian neu arwahanu o bawb arall.   

Radicaleiddio

Mae’n ymwneud ag ecsbloetio bobl sy’n agored i gael eu tynnu i mewn i eithafiaeth dreisiol gan radicalwyr sy’n aml iawn yn defnyddio sail resymegol berswadiol iawn ac unigolion carismatig iawn i ddenu pobl at eu hachos.  Y nod yw denu pobl at eu rhesymeg, ysbrydoli rhai newydd a rhoi eu barn eithafol a pherswadio unigolion bregus am gyfreithlondeb eu hachos.   

Cam-drin rhywiol

Cael eich cyffwrdd neu gusanu pan nad ydych yn dymuno, cael eich gorfodi i gyffwrdd neu gusanu rhywun arall, cael eich treisio, gorfod gwrando ar sylwadau rhywiol neu gael eich gorfodi i edrych ar weithred neu ddeunyddiau rhywiol, cael eich gorfodi i berfformio gweithred rywiol heb gytuno neu ymosodol yn erbyn eu hewyllys, fel puteindra, gwaith tywys a phornograffi. 

Masnachu pobl

Yn cael eu symud naill ai’n rhyngwladol neu gartref fel y gall dioddefwyr gael eu hecsbloetio.


 

Rhoi gwybod am gam-drin 

Gallwch fod yn amau cam-drin oherwydd:

  • Fod gennych bryderon cyffredinol am les rhywun
  • Eich bod yn gweld neu glywed am rywbeth allai fod yn gam-drin
  • Fod rhywun yn dweud wrthych fod rhywbeth wedi digwydd neu yn digwydd iddynt hwy, a allai fod yn gamdriniaeth.

Os ydych mewn amheuaeth, fe ddylech roi gwybod i rywun. 

Ffoniwch yr heddlu'n uniongyrchol mewn argyfwng neu os yw trosedd wedi ei gyflawni.

Gwasanaethau Cymdeithasol - Plant

  • Yn ystod oriau swyddfa cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar: 01352 701000
  • Y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd os gwelwch yn dda ar: 0345 0533116

Gwasanaethau Cymdeithasol - Oedolion

  • Yn ystod oriau swyddfa cysylltwch â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar: 03000 858858
  • Y tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 0345 053 3116.