Alert Section

Gorfodi Dyledion


Asiant Gorfodi

Gellir rhoi cyfarwyddyd i Asiantau Gorfodi (oedd yn cael eu galw\'n feilïaid yn flaenorol) i gasglu treth y cyngor a threthi busnes sydd heb eu talu os cyflwynir gorchymyn atebolrwydd, a dyledion dirwyon parcio os cyflwynir gwarant.

Talu Rwan

Os oes gennych daliad i\'w wneud, gallwch ei dalu ar-lein. 

Hefyd gallwch dalu trwy\'r llinell ffôn awtomatig 24 awr ar 08450230358 neu mewn siop un stop.

Creu cynllun ad-dalu

Os yw eich dyled yn cael ei throsglwyddo i Asiantau Gorfodi yna bydd ffi benodedig o £75 i chi am bob gorchymyn atebolrwydd neu warant. Mae\'r ffi hon wedi\'i gosod gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac nid oes modd ei thrafod.

Cyn i Asiant Gorfodi ymweld â\'ch eiddo, byddwch yn derbyn o leiaf un llythyr trwy\'r post yn rhoi cyfle i chi gytuno â chynllun ad-dalu er mwyn osgoi ymweliad gan Asiant Gorfodi. Ar y cam hwn mae\'r ffi benodedig o £75 eisoes wedi\'i gosod ar eich cyfrif a bydd angen ei chynnwys yn y cynllun ad-dalu.

Gallwch gysylltu â ni ar 01352 703700 i drafod cynllun ad-dalu neu llenwch y ffurflen taliad arfaethedig|.

Ymweliadau Asiant Gorfodi

Os nad ydych yn cysylltu â\'r swyddfa i gytuno â chynllun ad-dalu, neu\'n methu talu\'r cynllun a gytunwyd, yna bydd y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i Asiant Gorfodi fydd yn ymweld â chi yn eich cartref. Ar ôl i\'r asiant dderbyn cyfarwyddyd i ymweld â chi, bydd ffi benodedig o £235.00 (a 7.5% os yw\'r ddyled dros £1500) yn cael ei ychwanegu at y swm sy\'n weddill. Mae\'r ffi hon wedi\'i gosod gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac nid oes modd ei thrafod.

Yn ystod yr ymweliad, bydd gofyn i chi dalu\'n llawn (gan gynnwys y ffi o £235.00), trefnu cytundeb nwyddau a reolir neu nwyddau y gellir eu tynnu o\'ch eiddo.

Cytundeb nwyddau a reolir

Efallai y byddwch yn cael cyfle i sefydlu cynllun ad-dalu trwy ddechrau cytundeb nwyddau a reolir . Mae hyn yn cynnwys Asiant Gorfodi yn gwneud rhestr o\'ch nwyddau sydd yr un gwerth â\'r ddyled sy\'n daladwy i ddiogelu\'r trefniant talu.

Mae\'n rhaid i chi beidio â gwaredu na gwerthu unrhyw nwyddau sy\'n rhan o gytundeb nwyddau a reolir nes y telir eich dyled yn llawn.

Cymryd Nwyddau

Os nad ydych yn llofnodi\'r cytundeb nwyddau a reolir, neu\'n methu talu\'r cynllun a gytunwyd, yna gall yr Asiant Gorfodi fynd i mewn i\'ch eiddo (gan ddefnyddio grym os oes raid) a chymryd nwyddau. Mae ffi ychwanegol o £110 (a 7.5% ar gyfer unrhyw falans dros £1500) os cymerir yr nwyddau i\'w gwerthu.

Bydd y nwyddau sy\'n cael eu cymryd yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn. Os oes dyled yn parhau\'n daladwy ar ôl hyn, yna bydd yr Asiant Gorfodi yn cysylltu â chi a gellir cymryd camau gorfodi pellach. Os yw\'r nwyddau\'n cael eu gwerthu am bris uwch na\'r ddyled sy\'n daladwy, yna gellir dychwelyd y credyd i chi, os nad oes gennych unrhyw ddyled bellach gyda ni.

Gorfodaeth Bellach

Os nad oes digon o eitemau i glirio\'r ddyled, yna byddwn yn ystyried opsiynau eraill megis eich gwneud yn fethdalwr, gorchymyn yn erbyn eich eiddo, neu wneud cais i\'ch anfon i\'r carchar.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth yw'r TLlG? Pryd mae\'r rheoliadau yn dod i rym?
Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, yn benodol rhan 3 ac atodlen 12, yw\'r ddeddfwriaeth a fydd yn rheoli camau gorfodaeth o 6 Ebrill 2014.

Yn ogystal â\'r Ddeddf, mae hefyd 3 rheoliad:

  • Rheoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau 2013, SI 2013 rhif 1894
  • Rheoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau (Ffioedd) 2014, SI 2014 rhif 1
  • Rheoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau (Ardystio) 2014, SI 2014:421

Bydd gweithredu Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, ynghyd â\'r gwahanol reoliadau galluogi, yn dod â newidiadau mawr i\'r diwydiant gorfodi.

Nod Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 a\'r rheoliadau yw cyflwyno cyfundrefn ddeddfwriaethol newydd sy\'n syml i\'w deall ac sy\'n cael ei gweithredu\'n gyson ar bob math o ddyled.

Rydw i wedi clywed am "Asiantau Gorfodi", pwy ydyn nhw?
Mae\'r Ddeddf yn cyflwyno\'r term "Asiant Gorfodi" (AG), sydd i bob pwrpas yn derm newydd ar gyfer Beilïaid Ardystiedig. Dim ond AG a ardystiwyd sy\'n gallu cymryd rheolaeth dros nwyddau.

Sut fydd Asiantau Gorfodi yn cael eu trwyddedu / rheoleiddio?
Mae gweithdrefn "ardystio" newydd, sydd, er yn debyg i\'r drefn flaenorol, yn cynnwys gofynion newydd ar gyfer hyfforddiant a chymhwysedd ac mae\'r broses o wneud cais wedi cael ei moderneiddio. Bydd angen tystysgrif ar gyfer pob math o gamau gorfodi.

Beth yw\'r broses adennill o dan TLlG?
Mae\'r TLlG yn cyflwyno dwy broses, un ar gyfer Gwritiau Uchel Lys ac un ar gyfer pob achos arall - gelwir yr ail broses yn "Warant Rheoli". Mae gorfodaeth y tu allan i\'r Uchel Lys mae 3 gwahanol gam:

  1. Cam Cydymffurfio
  2. Cam Gorfodi
  3. Cam Gwerthu.

Pwy / beth yw Asiant Gorfodi (AG) Ardystiedig?
Asiant gorfodi yw unigolyn a awdurdodwyd dan adran 64 Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth2007 sy\'n gweithredu ar ran Awdurdodau Lleol neu Llysoedd Ynadon yn gorfodi Gorchmynion Atebolrwydd Treth y Cyngor a Threthi Busnes heb eu talu.

Pam fod Asiant Gorfodi wedi ymweld â\'ch eiddo?
Mae\'r Asiant Gorfodaeth wedi ymweld â\'ch eiddo ar gyfarwyddyd y Cyngor. Mae eu hymweliad yn ymwneud ag awdurdod i gasglu Gorchymyn Atebolrwydd am beidio â thalu Treth y Cyngor neu Drethi Busnes sy\'n ddyledus i Awdurdod Lleol.

Beth ddylwn i ei wneud nesaf?
Os oes Asiant Gorfodi wedi ymweld â chi, dylech siarad â nhw cyn gynted â phosibl i drafod sefydlu trefniant talu addas i glirio eich dyled.

Os nad oeddech chi\'n bresennol pan ymwelodd yr Asiant Gorfodi â\'ch eiddo a\'ch bod wedi derbyn llythyr a farciwyd at eich sylw, dylech gysylltu â\'r Asiant Gorfodi ar unwaith i drafod eich achos.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi cael llythyr neu hysbysiad oddi wrth Orfodaeth Dyledion Sir y Fflint, ond nad oes gan y person a enwir ar y llythyr neu\'r hysbysiad unrhyw gysylltiad neu berthynas â mi?
Os ydych chi wedi cael llythyr neu hysbysiad oddi wrth Orfodaeth Dyledion Sir y Fflint, ond nad oes gan y person a enwir ar y llythyr neu\'r hysbysiad unrhyw gysylltiad neu berthynas â chi, ffoniwch ni ar 01352 703700.

Mae\'n bwysig nad ydych yn oedi cyn cysylltu â Thîm Gorfodi Dyledion Sir y Fflint, gan y gallai methu gwneud hynny arwain at i ni barhau â\'n camau adennill neu anfon llythyrau ychwanegol i\'ch eiddo.

Beth yw fy newisiadau, os na allaf fforddio talu fy nyled yn llawn?
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chi i sicrhau bod eich dyled yn cael ei setlo\'n realistig. Os na allwch fforddio talu eich dyled yn llawn, dylech chi gysylltu â ni ar unwaith i drafod y dewisiadau talu sydd ar gael i chi.

Beth alla i ei wneud os nad yw\'r trefniant talu a gynigir gennyf yn cael ei dderbyn?
Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond trefniadau talu tymor byr y gallwn ymrwymo iddynt ac mae\'n bosibl y byddwn yn cael ein cyfyngu dan rai amgylchiadau ac na allwn dderbyn cynnig talu arfaethedig. Yn dibynnu ar amgylchiadau eich achos a\'r cam mae eich achos wedi ei gyrraedd yn y broses gasglu a gorfodi, efallai na fydd modd i ni ymrwymo i drefniant gyda chi a bydd angen i chi gyfathrebu\'n uniongyrchol gyda\'r Asiant Gorfodi.

Pa ddulliau talu ydych chi\'n eu derbyn?

Ewch i\'r tab \'Dulliau Talu\' sydd i\'w weld ar waelod y dudalen hon i gael rhestr o ddulliau talu a dderbynnir.

Beth alla i ei wneud, os wyf yn anghytuno â swm y ddyled y maent yn honni sy\'n ddyledus gennyf?
Os byddwch chi\'n amau dilysrwydd dyled neu\'r swm sy\'n ddyledus, mae\'n rhaid i chi gysylltu â ni i sefydlu\'r ffeithiau yn ymwneud â\'r ddyled sy\'n ddyledus. Os ydych yn hawlio eich bod wedi talu\'r ddyled yn llawn, rhaid i chi roi \'prawf o\'r taliad\' i wirio fod y ddyled wedi ei thalu.

Pa ffioedd all gael eu gweithredu o dan TCE? A phryd y gellir eu gweithredu?
Mae\'r ffioedd y gellir ceisio amdanynt ar bob cam yn sefydlog ac maent fel a ganlyn (heb fod yn yr Uchel Lys):

Cam Cydymffurfio: £ 75.00. Y sbardun ar gyfer y ffi hon yw derbyn y cyfarwyddyd.

Cam Gorfodi £235, ynghyd â 7.5% o werth ddyled sy\'n fwy na £1,500. Y sbardun ar gyfer y ffi hon yw presenoldeb ar y safle.

Cam Gwerthu: £110, ynghyd â 7.5% o werth dyled sy\'n fwy na £1,500. Y sbardun ar gyfer y ffi hon yw presenoldeb cyntaf yn yr eiddo at ddibenion mynd â nwyddau i fan i\'w gwerthu.

Beth fydd yn/sy\'n gallu digwydd os byddaf yn gwrthod talu?
Os byddwch yn parhau i beidio â chydnabod ein ceisiadau am daliad, gallai arwain at gamau gorfodi a allai gynnwys Asiant Gorfodi yn cipio a mynd â\'ch nwyddau, a allai gael eu gwerthu mewn arwerthiant cyhoeddus i adennill y swm sy\'n ddyledus. Yn ogystal, efallai y byddwch hefyd yn mynd i gostau ychwanegol. Dylid nodi hefyd bod nwyddau a werthir mewn arwerthiant cyhoeddus ond yn codi tua 10% o\'u gwerth manwerthu.

Beth os byddaf yn talu swm y ddyled wreiddiol, gall AG orfodi eu bod yn adennill eu ffioedd?

Gallant, y swm sy\'n weddill ar ôl cyflwyno\'r achos i asiant gorfodi, yw gwerth y ddyled wreiddiol a\'r costau. Er mwyn talu\'n llawn, mae\'n rhaid talu\'r ddwy elfen.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn colli dyddiad talu y cytunwyd arno?
Os byddwch chi\'n colli dyddiad talu neu ddyddiad cau, dylech gysylltu â'n swyddfa ar unwaith i egluro\'r rhesymau ynghylch y taliad a fethwyd / hwyr. Mae ein gweithredwyr Canolfannau Galw yno i\'ch helpu chi ac wedi ymrwymo i weithio gyda chi i gyflawni setliad realistig o'ch dyled.

Rwyf wedi clywed mai enw\'r broses newydd yw "Cymryd rheolaeth", beth mae hyn yn ei olygu?
Mae Cymryd rheolaeth yn disodli\'r broses hanesyddol o atafaelu a chodi ar nwyddau. Erbyn hyn mae 4 dull lle y gall AG gymryd rheolaeth, sef: 1) diogelu nwyddau ar y safle (h.y. cloi mewn cwpwrdd, garej neu ystafell arall) 2) diogelu nwyddau ar y briffordd 3) symud i fan gwerthu 4) sefydlu Cytundeb Nwyddau Rheoledig (CNRh). Y CNRh yw\'r fersiwn modern o\'r "cytundeb meddiant ar droed".

A oes hawl mynd i mewn i fy eiddo?
Oes. Mae\'r TLlG yn darparu hawl statudol i fynd i mewn i\'ch eiddo i chwilio am nwyddau i gymryd rheolaeth drostynt. Mae\'r Ddeddf yn awdurdodi mynediad i sawl eiddo ac ail-fynediad i archwilio nwyddau y cymerwyd rheolaeth drostynt. Gellir cael mynediad drwy ddrws neu ddull arferol.

A oes rhaid i AG fod â gwarant yn ei feddiant wrth orfodi achos?
Nid oes yn rhaid i AG gael Gwarant go iawn yn ei feddiant pan ei fod yn gorfodi. Mae hyn yn eithaf gwahanol i warant chwilio\'r Heddlu er enghraifft, lle mae\'n rhaid i\'r warant go iawn fod yn bresennol.

Mae\'n rhaid i Asiantau Gorfodi fod â\'u Tystysgrif yn eu meddiant ac awdurdod gan y Cyngor i weithredu gwarantau sy\'n tarddu o orchymyn atebolrwydd. Ym mhob achos arall, dim ond y Dystysgrif sydd ei hangen.

A all dyledwr neu unigolion eraill gael eu harestio os byddant yn rhwystro AG?
Mae paragraffau 68 (1) a (2) atodlen 12 y TCE yn creu troseddau statudol, a gyflawnir gan unigolion sydd (1) yn fwriadol yn rhwystro person sy\'n gweithredu\'n gyfreithlon fel AG & (2) yn fwriadol yn ymyrryd â nwyddau a reolir.

Sut a ble I talu

Ar-lein
Gallwch chi dalu ar-lein  gan ddefnyddio\'r rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd.   

Bancio dros y rhyngrwyd / ffôn
Gallwch chi dalu gan ddefnyddio cyfleuster bancio dros y rhyngrwyd neu\'r ffôn. Nodwch fanylion banc y Cyngor - Côd Didoli: 54 10 10, Rhif Cyfrif: 72521775 - a nodwch rif eich cyfrif Treth y Cyngor fel y mae ar eich bil.Debyd Uniongyrchol  

Talu â cherdyn credyd /debyd dros y ffôn
Gallwch chi dalu gan ddefnyddio\'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd drwy ffonio\'r tîm Treth y Cyngor rhwng 8.30am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01352 703700. Fel arall gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth talu awtomataidd dros y ffôn drwy ffonio 0845 023 0358 a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir. Mae\'r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos. Dylech chi nodi y bydd angen ffôn â botymau arnoch i ddefnyddio\'r gwasanaeth hwn. 

Banc
Gallwch chi dalu ag arian parod mewn unrhyw fanc, ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaeth a gewch. Mae\'n bwysig eich bod chi\'n nodi manylion banc y Cyngor - Côd Didoli: 54 10 10, Rhif Cyfrif: 72521775

Swyddfeydd Cyngor

Gallwn dderbyn taliadau, arian parod a\'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd yn swyddfeydd talu\'r Cyngor. Dylech chi fynd â\'ch bil gyda chi pan fyddwch yn talu, a byddwch yn cael derbynneb.  

Cei Connah - Sir y Fflint yn Cysylltu, Y Ganolfan Ddinesig 
Fflint - Sir y Fflint yn Cysylltu
Bwcle - Neuadd y Dref, Ffordd yr Wyddgrug
Treffynnon - Sir y Fflint yn Cysylltu, Hen Neuadd y Dref

Cyngor ar Ddyledion

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ymarferol, ddibynadwy a chyfrinachol ar ystod eang o faterion, gan gynnwys materion budd-daliadau, tai, cyflogaeth a chyfreithiol.
Ffôn: 08444 111 444
www.adviceguide.org.uk

Mae Elusen Ddyledion Step Change - yn helpu cynorthwyo\'r bobl hynny sy\'n cael anawsterau ariannol.
Ffôn: 0800 138 111
www.stepchange.org

Mae\'r Money Advice Trust yn darparu atebion a dull strwythuredig o reoli problemau dyledion personol difrifol.
Ffôn: 0808 808 4000
www.moneyadvicetrust.org

Mae Y Samariaid ar gael 24 awr y dydd i roi cefnogaeth emosiynol gyfrinachol i bobl sy\'n profi teimladau o ofid neu anobaith.
Ffôn: 08457 90 90 90
www.samaritans.org

Advice UK yw rhwydwaith cymorth mwyaf y DU o ganolfannau cyngor am ddim, annibynnol.
Ffôn: 0300 777 0107
www.adviceuk.org.uk

Mae Age UK yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer pobl hŷn.
Ffôn: 0800 169 6565
www.ageuk.org.uk

Camerau ar y Corff

Mae holl asiantau gorfodi dyledion / beili a gyflogir gan y Cyngor wedi cael camerâu a osodir ar y corff, a elwir hefyd yn fideos a wisgir ar y corff.

Pwrpas y camerâu yw hyrwyddo sicrwydd i’r cyhoedd, dal tystiolaeth gorau, atal niwed i’n asiantau a sicrhau fod pawb yn cael eu diogelu. Mae’r recordiadau’n darparu tystiolaeth annibynnol i’n galluogi i ymchwilio’n llawn i gwynion cwsmeriaid a sicrhau fod yr asiantau gorfodi/beili yn gweithio yn unol â’r holl godau ymarfer a rheoliadau perthnasol. Mae defnyddio’r camerâu hyn yn dangos ein hymrwymiad i’r agenda hygrededd, tryloywder ac atebolrwydd ac yn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau gorfodi dyledion effeithiol ac effeithlon.

Mae defnyddio fideos a wisgir ar y corff yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Diogelu Data. Mae gennych hawl i weld gwybodaeth a gedwir amdanoch a gallwch wneud cais i weld eich gwybodaeth eich hun fel y nodir yn y gweithdrefnau Cais Gwrthrych am Wybodaeth.

Asesiad Risg

Asesiad o Effaith ar Breifatrwydd