Coronafeirws - Cefnogaeth
Coronafeirws
Pa gymorth sydd ar gael?
Sir y Fflint Gyda’n Gilydd – Gwybodaeth Ddefnyddiol i BreswylwyrRydyn ni fel Cyngor yn chwilio am ffyrdd o helpu ein preswylwyr yn ystod y cyfnod digynsail yma drwy’r amser. Rydyn ni wedi creu’r llyfryn hwn o wybodaeth gan y Cyngor gyda’n partneriaid ac rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol ac o fudd i chi – gan y Cyngor a’n partneriaid.
Mae’r llyfryn yn cynnwys ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
- Manylion cyswllt allweddol y Cyngor
- Gwybodaeth am ddiogelu
- Help a chyngor ar Dreth y Cyngor a rhent
- Dŵr Cymru
- Cymru Gynnes
- Y Gwasanaeth Tân
- Bod yn ymwybodol o dwyll
I gael mynediad i’r llyfryn uchod o wybodaeth ddefnyddiol, dilynwch y ddolen hon.
Cefnogaeth Dileu Swydd
Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind yn wynebu sefyllfa dileu swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg a gweithredu yn unol â’ch contract a’ch hawliau cyfreithiol o ran dileu swydd. Mae hynny’n cynnwys sicrhau eich bod yn rhan o unrhyw drafodaethau, dilyn y broses ddethol gywir a rhoi cyfnod rhybudd priodol i chi. Os na fydd y pethau hyn yn digwydd, mae’n bosibl y bydd modd i chi gyflwyno honiad o ddiswyddo annheg, neu hawlio iawndal am ddiffyg ymgynghori.
Mae rhaglen Ymateb Cyflym i Ddileu Swyddi Sir y Fflint (RRR) yn cynnig cymorth i gwmnïau a’u gweithwyr pan fydd cyhoeddiad am ddileu swyddi wedi’i wneud. Mae RRR yn ddull partneriaeth o gefnogi’r rhai sydd mewn perygl o ddileu swyddi ac mae’n cynnwys asiantaethau a chefnogaeth berthnasol sy’n cynnig gwasanaethau fel:
Chwilio am swyddi / paru swyddi / codi ymwybyddiaeth o swyddi gwag gyda chyflogwyr amgen perthnasol / hawl i fudd-daliadau / ReAct a mentrau eraill / uwchsgilio a datblygiad personol / CV a sgiliau cyfweliad / sut i gyllidebu a rheoli cyllid / rhaglenni C4W / cyfleoedd am hunangyflogaeth / ymateb i anghenion unigol penodol.
Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
Mae’r Llywodraeth yn ddiweddar wedi cyflwyno ‘Cynllun Cadw Swyddi’r Coronafeirws’. Mae hyn i helpu gweithwyr sydd wedi cael cwtogiad cyflog i 80% oherwydd y Coronafeirws. Os yw’r HOLL feini prawf isod yn cael eu bodloni, cysylltwch â ni gan y gallech fod â hawl i fwy o Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad i Dreth y Cyngor.
- Rydych chi’n dal wedi’ch cyflogi ac ar gyflogres eich cyflogwr
- NID ydych chi’n gwneud unrhyw agwedd o’ch gwaith ar hyn o bryd
- Rydych chi’n derbyn 80% o’ch cyflog arferol
- **Estyniad i’r Cynllun Absenoldeb gyda Chyflog Rhannol – Cyhoeddiad Diweddar**
Newidiadau i’r Cyfraddau Lwfans Tai Lleol
Ar 25 Mawrth 2020, derbyniodd y Cyngor wybodaeth bod y Llywodraeth yn cynyddu cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 06 Ebrill 2020 oherwydd COVID-19.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarganfod mwy am eich cyfradd Lwfans Tai Lleol gan ddefnyddio eich cod post; dilynwch y ddolen hon.
Coronafeirws – newidiadau i apwyntiadau’r Ganolfan Waith
Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau, nid oes rhaid i chi ddod i apwyntiadau yn y ganolfan waith am dri mis, gan ddechrau o ddydd Iau 19 Mawrth 2020.
Byddwch yn dal i dderbyn eich budd-daliadau fel arfer ond mae’r holl ofynion i ddod i’r ganolfan waith eich hun wedi’u gollwng.
Gallwch barhau i wneud eich apwyntiadau am fudd-dal ar y we os ydych chi’n dal i fod yn gymwys. Mae canolfannau gwaith yn dal ar agor a byddant yn parhau i gefnogi pobl nad ydynt yn gallu defnyddio ffonau na mynd ar-lein, gan gynnwys pobl ddigartref.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.understandinguniversalcredit.gov.uk/cymorth-cyflogaeth-a-budd-daliadau/
Cronfa Cymorth Dewisol Cymru
Gall y Coronafeirws fod yn hynod o anodd os ydych yn cael anawsterau talu biliau a/neu rent. Mae cymorth a chyngor ar gael i’ch cynorthwyo chi.
Dilynwch y ddolen hon i gael canllaw byr ar y cymorth ariannol a all fod ar gael i'ch helpu chi gyda'r canlynol:
- Colli incwm
- Tai
- Cymorth ariannol
- Costau byw
- Iechyd a lles
- Cysylltiadau