Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyn Landlord Sir y Fflint am achos o droi allan anghyfreithlon ac aflonyddu

Published: 21/09/2022

Court.jpgMae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord sector preifat Sir y Fflint am droi allan ac aflonyddu tenant yn anghyfreithlon a oedd yn byw mewn eiddo rhent preifat. Mae gweithredoedd y landlord wedi cynnwys tynnu’r toiled, sinc a gosodion ystafell ymolchi eraill o’r ystafell ymolchi.

Ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022 yn Llys Ynadon yr Wyddgrug, bu i Mr Terrence Kermode o Wood Lane, Penarlâg bledio’n euog i’r drosedd o droi allan yn anghyfreithlon ac aflonyddu o dan y Ddeddf Amddiffyn rhag Troi Allan 1977 a chafodd y mater ei ohirio i wrandawiad dedfrydu.

Yn y gwrandawiad dedfrydu ar ddydd Iau 15 Medi 2022 yn Llys Ynadon yr Wyddgrug, cynigiwyd lliniaru fod Mr Kermode yn 76, heb unrhyw gollfarnau blaenorol, ac wedi pledio’n euog ar y cyfle cyntaf. Clywyd fod Mr Kermode yn caniatáu i’w ferch gymryd drosodd y busnes a bod Mr Kermode wedi tynnu’r ystafell ymolchi allan mewn “moment o wallgofrwydd” gan fod rhent a biliau yn ddyledus.

Dywedodd yr Ynad fod ymddygiad Mr Kermode yn “warthus” a’i fod wedi torri mewn i gartref rhywun, a mynd ag eiddo ac ystafell ymolchi, sy’n hollol annerbyniol i unrhyw un, yn arbennig landlord am 30 mlynedd.  Yn unol â’r adroddiad cyn dedfrydu, cyflwynodd yr Ynadon Gosb Ariannol (dirwy Band D o £1,000), gordal llys (£100) a chostau llawn CSFf (£2,623.14).  Mae gan Mr Kermode 28 diwrnod i dalu.  

Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd: 

“Credwn fod gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref sydd mewn cyflwr da, yn gynnes ac yn ddiogel. Er ein bod yn ceisio lleihau effeithiau iechyd o ganlyniad i gyflyrau tai gwael drwy gyfuniad o gyngor a chymorth ariannol, o bryd i'w gilydd rydym yn delio gyda materion sydd mor ddifrifol fel bod erlyn yn hanfodol. 

“Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges glir at landlordiaid y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwneud popeth a allant i ddiogelu preswylwyr yn erbyn achosion o droi allan anghyfreithlon ac aflonyddu.  Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn cael eu rheoli’n briodol a bod tenantiaid yn cael y diogelwch maent ei angen yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

BR 2 25 JAN.jpeg BR4 25 JAN.jpeg