Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail-wynebu lôn gerbydau yn Burntwood Road, Drury

Published: 12/08/2022

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid i gyflawni gwaith ail-wynebu ar lôn gerbydau yn Burntwood Road, Drury, o’r ty cyhoeddus The Parrot at drosbont yr A55, a bydd y gwaith yn dechrau dydd Llun, 22 Awst am oddeutu pythefnos (os bydd y tywydd yn caniatau).

Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd ffordd ar gau a bydd llwybr gwyro gydag arwyddion ar waith rhwng dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5pm er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a fydd yn cyflawni’r gwaith a defnyddwyr eraill y briffordd.  

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae’r Cyngor, ynghyd â’n contractwr, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.