Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Meicro-Ofal - “yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol”

Published: 27/07/2022

Microcare logo.pngAm y ddwy flynedd ddiwethaf, mae meicro-ofal Sir y Fflint wedi bod yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i drigolion - ac yn parhau i wneud hynny. 

Mae meicro-ofalwyr yn fusnesau bach, sy’n amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi pump o bobl, sy’n cynnig gwasanaethau math gofal, cefnogaeth neu les hyblyg wedi’u personoli, i bobl ddiamddiffyn, wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn.

Mae’r rhaglen meicro-ofal a sefydlwyd gan y Cyngor, ac a ariannwyd ar y cyd â Chadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi a mentora unigolion i ddatblygu eu busnes neu syniad gofal cymdeithasol a darparu gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid ac adnoddau eraill sydd ar gael yn ogystal â’u harwain trwy ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol.  

Mae tîm meicro-ofal Sir y Fflint wedi cefnogi 25 o feicro-ofalwyr ers 2020 ac yn gweithio gyda 10 arall sy’n ystyried y syniad - oll yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ledled Sir y Fflint canolog a gwledig.

Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan feicro-ofalwyr wedi galluogi pobl i gael cefnogaeth ychwanegol i wneud pethau maent eisiau eu gwneud, aros yn eu cartrefi, a darparu seibiant ar gyfer teulu a ffrindiau.

Mae’r llwyddiant i’w weld mewn adborth diweddar gan ffrind i rywun sy’n cael cefnogaeth gan feicro-ofalwr.  Dywedodd:

“Rwyf eisiau gadael i chi wybod am adborth cadarnhaol am eich gwasanaeth. Rwyf wedi bod gyda ffrind sydd ar restr aros am ofalwr ond yn y cyfamser awgrymwyd meicro-ofalwr. Mae hyn wedi bod yn llwyddiant enfawr ac wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i’w bywyd.”

Mae’r adborth cadarnhaol hwn yn enghraifft o’r sylwadau cadarnhaol niferus gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd.

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Cyflwynwyd meicro-ofal fel ymateb i brinder cenedlaethol o ofalwyr ac i fodloni’r galw cynyddol am ofal.  Cyflwynodd Sir y Fflint y dull arloesol hwn i gynyddu nifer y gofalwyr oedd yn gallu rhoi gofal i’w drigolion.

“Fel awdurdod lleol, mae ein darparwyr gofal, asiantaethau gofal, gwasanaethau preswyl neu gynorthwywyr personol yn gwneud gwaith gwych ac mae darparwyr meicro-ofal wedi gwella’r ddarpariaeth hon ymhellach.”    

Mae tîm datblygu meicro-ofal Sir y Fflint yn awyddus i annog a chefnogi pobl ar draws y sir i ddod yn feicro-ofalwyr. Gall unrhyw un ddod yn feicro-ofalwr, os oes gennych brofiad o ddarparu gofal ai peidio, felly os oes gennych ddiddordeb mewn darparu gwasanaethau gofal, eisoes yn cefnogi pobl yn eu cymunedau lleol ond eisiau gwneud mwy neu eisiau gwneud rhywbeth sy’n cefnogi eraill ac yn gwneud gwahaniaeth, cysylltwch â micro-care@flintshire.gov.uk i siarad ag aelod o’r tîm ac i wybod mwy.