Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Allwch chi gynnig lle i aros?

Published: 22/07/2022

Wales stands with Ukraine W.pngMae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner i gefnogi a chroesawu’r rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcrain.

Mae pobol sengl, cyplau a theuluoedd sy'n ffoi o'r Wcrain yn ceisio diogelwch a noddfa yng Nghymru. Maent yn parhau i fod angen eich help. 

Rydym yn chwilio am bobl a all gynnig llety.  Allwch chi gynnig lle i aros?  Ewch i dudalen we Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru/cynnigcartref i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Housing Justice Cymru yn cefnogi lletywyr yng Nghymru ac maent wedi sefydlu nifer o sesiynau cyflwyno ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol i chi.  Gweler dyddiadau ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf isod.

Dydd Mawrth 26 Gorffennaf, 6.30pm - Sesiwn gyflwyno ar gyfer y rheiny sy’n ystyried lletya

Dydd Sul 7 Awst, 6.30pm - Sesiwn gyflwyno ar gyfer y rheiny sy’n ystyried lletya