Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahoddiad agored i ffair swyddi gyntaf Treffynnon

Published: 18/07/2022

Holywell job fair Cym.JPGYdych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? 

Dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng nghanol tref Treffynnon i wella eich siawns o gael gwaith.

Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yng Ngerddi’r Twr, Treffynnon CH8 7TG rhwng 10am a 2pm, dydd Iau 28 Gorffennaf 2022.  Byddant wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i swydd.

I weld pa gyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli sydd ar gael yn eich cymuned, ewch i’r ardal wirio CV a gwneud cais am swyddi yn y fan a’r lle yn yr orsaf ymgeisio. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 neu Janiene Davies ar 07770 632128 / Nia Parry ar  07770 633453  yng Nghymunedau Am Waith a Mwy.

Bydd nifer o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu cynrychioli yn ogystal â’r cyflogwyr a’r sefydliadau lleol canlynol:

• Oscar Meyer

• Army

• Gap Personnel

• North Wales Police

• Haven 

• Welsh Water

• Stamford Gate

• Nice Pak

• New Directions

• Hays Recruitment

• Newydd Catering and Cleaning

• MHC

• 2 Sisters

• John Dale (Accrol)

• Home Instead Homecare

• Randstad recruiting for Schneider Electrical in Flint