Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Sir y Fflint yn barod am haf llawn hwyl

Published: 14/07/2022

Mae tîm chwarae’r haf Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer “Haf o Hwyl” ac mae’r hyfforddiant yn mynd rhagddo’n dda! 

Bydd y cynlluniau’n cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae’r Cyngor mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol a Llywodraeth Cymru. 

Bydd y cynlluniau chwarae yn dechrau ledled y sir ddydd Iau 21 Gorffennaf (yn ystod yr wythnos).  Mae’r holl sesiynau yn rhad ac am ddim i blant rhwng 5 a 12 oed. 

Mae mwyafrif aelodau ein tîm yn dychwelyd atom ni ar ôl gweithio ar y cynllun yn ystod hafau blaenorol. Maen nhw wedi cael gwiriad manylach y DBS ac wedi cwblhau rhaglen hyfforddi gynhwysfawr.

Rhaid cofrestru ymlaen llaw (ar lein) ar gyfer pob safle.   

Bydd cynlluniau chwarae’n rhedeg am 3, 4, 5 neu 6 wythnos – ewch i’r wefan i gael mwy o fanylion

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd Cynllun Cyfeillio Sir y Fflint yn rhan annatod o’r ddarpariaeth hon, ac yn darparu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 17 oed sydd ag anableddau.  

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:

cynllunchwaraesyff@siryfflint.gov.uk or 01352 704154

Summer play scheme team.jpg

 Tîm chwarae’r haf