Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio cefnogaeth i landlordiaid a thenantiaid

Published: 14/07/2022

Landlord page W.JPGMae tîm Tai Sir y Fflint wedi lansio’r canolbwynt diweddaraf ar wefan y Cyngor - gan ddod â gwybodaeth ynghyd i gefnogi landlordiaid ac asiantwyr sydd ag eiddo yn Sir y Fflint yn ogystal â’u tenantiaid.

Wrth i newidiadau mawr ddod i rym yn y Sector Rhentu Preifat yng Nghymru ym mis Rhagfyr, mae’n hanfodol bod pob landlord preifat yn ymwybodol o’r newidiadau arwyddocaol hyn a fydd yn effeithio ar bob landlord, asiant a thenant.

Yn y canolbwynt newydd mae gwybodaeth am y newidiadau a dolenni cyswllt i ganfod mwy o wybodaeth.  Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eiddo i’w rhentu a llawer mwy, gan gynnwys:

  • Taliadau Tai Dewiso
  • Cynllun Bond
  • Tai Teg
  • Rhentu Doeth Cymru
  • Help gydag ôl-ddyledion rhent ac ailddefnyddio eiddo gwag.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby - Aelod Cabinet Tai ac Adfywio Sir y Fflint:

“Mae hwn yn adnodd da iawn i bob landlord a’u tenantiaid sy’n chwilio am gyngor - mae’r holl wybodaeth berthnasol ar gael mewn un lle, mae’n hawdd pori trwyddi ac mae wedi’i gosod allan yn glir.”

Gellir cael mynediad at y canolbwynt yma.