Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Adolygiad o Ostyngiad Person Sengl 

Published: 13/07/2022

Mae trethdalwyr yn Sir y Fflint sy’n cael gostyngiad o 25% ar eu bil fel trigolion deiladaeth sengl yn cael eu gwirio yn fuan i sicrhau fod y gostyngiadau yn gywir. Mae hwn yn ymarfer rheolaidd, gydag adolygiad tebyg wedi ei gynnal yn ystod 2019.

Bydd Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth sy’n arbenigo yn yr adolygiadau hyn, yn gweithio gyda’r Cyngor i gadarnhau’r gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys ac i ganfod pobl sy’n hawlio gostyngiad ar eu treth y Cyngor pan nad ydynt yn gymwys iddo. Mae’r adolygiad yn ffurfio rhan o fesurau’r Cyngor i atal twyll ac i ddiogelu pwrs y wlad. 

Pan fo hawliadau anghywir yn cael eu canfod bydd y Cyngor yn diweddu’r hawliadau ac yn ceisio ad-hawlio’r gostyngiad o’r dyddiad priodol. 

Ar hyn o bryd, mae dros 23,000 o breswylwyr - un mewn tair aelwyd - yn hawlio’r gostyngiad person sengl ac er bod y mwyafrif o drigolion yn hawlio’r gostyngiad yn gywir, efallai y bydd achosion ble nad yw’r Cyngor wedi eu hysbysu ynghylch newid mewn deiliadaeth aelwyd, sy’n effeithio ar y gostyngiad, neu fod hawliad ffug wedi ei wneud yn fwriadol.

Os yw unrhyw drethdalwr yn teimlo nad yw eu gostyngiad yn gywir gofynnir iddynt gysylltu â gwasanaeth Treth y Cyngor yn syth ar (01352) 704848 neu ddweud ynghylch newid mewn amgylchiadau ar-lein yn www.siryfflint.gov.uk/DEGPS cyn i’r adolygiad llawn gychwyn ddechrau Awst.