Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dod ar 28 Mehefin

Published: 20/06/2022

Bydd y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yn cael eu rhyddhau ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022. Bydd y canlyniadau hyn yn rhoi cipolwg i gymunedau ledled Sir y Fflint ar y ffordd y mae ein poblogaeth leol wedi newid yn ystod y degawd diwethaf.

Caiff y canlyniadau eu rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a byddant hefyd yn rhoi amcangyfrifon o boblogaeth Cymru a Lloegr, yn ogystal â phroffiliau oedran a rhyw awdurdodau lleol.

Roedd y cyfrifiad, a gafodd ei gynnal yng ngwanwyn 2021, yn llwyddiant ysgubol, a bydd yn helpu i lywio gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal chi.

“Mae'r cyfrifiad yn rhoi'r darlun cyfoethocaf posibl i ni o gymdeithas ledled Cymru a Lloegr ac mae'n hynod bwysig er mwyn llywio penderfyniadau am ein gwasanaethau cyhoeddus, o addysg i ofal iechyd, ac ar draws y sector preifat,” meddai'r Dirprwy Ystadegydd Gwladol, Pete Benton.

“Bydd y canlyniadau o'r cyfrifiad hwn yn rhoi llinell sylfaen hollbwysig i ni er mwyn monitro a rheoli newid yn dilyn y pandemig.”

Yn dilyn yr amcangyfrifon cyntaf o'r boblogaeth ym mis Mehefin, bydd SYG yn rhyddhau canlyniadau pellach o'r cyfrifiad o fis Medi ymlaen. Bydd y rhain yn cynnwys data am ethnigrwydd, crefydd, y farchnad lafur, addysg a thai. Am y tro cyntaf, bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyn-filwyr y lluoedd arfog, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Cyfrifiad 2021, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk/canlyniadau-cyfrifiad-2021