Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croesawu’r Dirprwy Weinidog mewn Canolfan Deuluoedd Blynyddoedd Cynnar a Darparwr Gofal Plant lleol

Published: 14/06/2022

Croesawodd Cyngor Sir y Fflint y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, i Ganolfan Deuluoedd Blynyddoedd Cynnar Westwood yn ddiweddar. 

Cafodd y Dirprwy Weinidog flas ar y gweithgareddau a gynhelir yn y Ganolfan, gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant i blant rhwng 3 a 4 oed, y tîm Dechrau’n Deg a’r hyn a gyflawnwyd drwy raglen gyfalaf Llywodraeth Cymru a chyllid grant arall.   

Cafodd y Dirprwy Weinidog gyfle i gwrdd ag aelod o’r tîm Rhianta Cymunedol a chlywed sut maent wedi defnyddio’r cyfleusterau ac wedi datblygu’r prosiect cymorth rhianta gwirfoddol, Grymuso Rhianta Grymuso Cymunedau, sef y cyntaf o’i fath yng Nghymru, a chlywed am sut mae teuluoedd a phlant ag anabledd wedi elwa o’r gofod modern. 

Dywedodd hi: 

“Roeddwn i’n falch o gwrdd â rhai o’r plant a’r teuluoedd sy’n elwa o’r gwasanaethau pwysig a ddarperir gan Ganolfan Teuluoedd y Blynyddoedd Cynnar Westwood gan gynnwys Dechrau'n Deg.  Roedd hi’n wych gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i ddod â gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar at ei gilydd, dan un to. Hoffwn ddiolch i’r staff ymroddedig sy’n helpu plant i ddatblygu a pharatoi ar gyfer yr ysgol ac sy’n cefnogi rhieni, gan sicrhau bod cyfleusterau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd.”

Defnyddiwyd y cyllid cyfalaf ar gyfer un ar ddeg o gynlluniau Blynyddoedd Cynnar gan gynnwys deg cynllun modiwlar ac un cynllun adnewyddu.  Datblygwyd y cynlluniau hyn mewn meysydd o angen, yn seiliedig ar y galw am ofal plant, ar gyfer plant rhwng 3 a 4 oed i ddechrau, yn ogystal â gofal i blant rhwng 2 a 12 oed, ac adeilad Canolfan Deuluoedd Blynyddoedd Cyntaf newydd yn Aston. 

Gweithiodd tîm Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint a swyddogion o’r tîm Moderneiddio Ysgolion gydag ysgolion a’u cyrff llywodraethu i ddatblygu cynlluniau a fyddai’n darparu gofal plant ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal estynedig i blant lleol.   

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae’r dull unigryw hwn yn dangos ein bod wedi gwrando ar farn rhieni a’n bod wedi llwyddo i greu llwybr di-dôr o ran gofal plant ac addysg gynnar, gan helpu plant i ymgyfarwyddo ag athrawon cyn dechrau addysg, eu paratoi ar gyfer yr ysgol a sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl ar ddiwrnod plant gan leihau amser teithio a nifer y gofalwyr.”

Hyd yma, mae wyth o’r cynlluniau wedi cael eu cwblhau, a disgwylir i’r gweddill, gan gynnwys cyfleuster cyfrwng Cymraeg yn Shotton, gael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

Mae cyllid arall wedi cefnogi darparwyr gofal plant ar draws y sector gan gynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr sector preifat a gwirfoddol, lleoliadau a gynhelir sy’n cynnig gofal dydd, gofal estynedig, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau a chlybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol, gan sicrhau bod gofal plant o ansawdd uchel ar gael ar draws y Sir.   

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Mae’r cyllid hwn wedi bod yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau hanfodol i’n plant ifanc a’u rhieni.   Mae nifer o welliannau wedi’u gwneud gan gynnwys gwaith adnewyddu cyffredinol, megis gwaith peintio a gosod carpedi newydd; gwelliannau i gyfleusterau chwarae gan gynnwys cyfleusterau newydd dan do ac awyr agored a chanopïau i warchod rhag y tywydd; ac offer TG newydd sy’n hanfodol ar gyfer darparu rhaglenni arbennig a ariennir gan Lywodraeth Cymru, megis y Cynnig Gofal Plant, a llawer mwy.  Mae wedi bod yn waith partneriaeth arbennig.   Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn”.

Mae’r Cyngor hefyd wedi gweithio gyda sefydliadau ymbarél gofal plant gan gynnwys Mudiad Meithrin, Blynyddoedd Cynnar Cymru,  Clybiau Plant Cymru a PACEY Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant o’r ansawdd gorau posibl yn cael ei datblygu.   Ariennir y gwaith cyfalaf drwy raglen Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn Sir y Fflint yn cael ei datblygu’n barhaus a galluogi darpariaeth gwasanaeth sy’n gwneud gwahaniaeth i blant a’u teuluoedd.   

Westwood.jpg