Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Prosiect uwchgylchu’r Fflint yn helpu pobl ag anableddau dysgu i gael sgiliau cyflogadwyedd

Published: 06/06/2022

Mae prosiect a ddechreuodd er mwyn uwchgylchu beiciau yn Sir y Fflint wedi tyfu’n fenter gymunedol lwyddiannus, lle mae aelodau’r cyhoedd yn rhannu eu sgiliau ymarferol gan wyro eitemau diangen y cartref rhag mynd i safleoedd tirlenwi. 

Mae menter Ail Gyfle, sy’n seiliedig ar safle Abbey Upcycling yn y Fflint, yn cael ei rhedeg gan yr elusen anableddau dysgu, HFT, gyda chefnogaeth Cyngor Sir y Fflint, ac mae’n cynnig cyfleoedd hyfforddiant gwerthfawr i oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. 

Mae ugain o wirfoddolwyr o’r gymuned yn cynnig eu hamser a’u gwybodaeth i addysgu hyd at 75 o oedolion ag anableddau dysgu i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i uwchgylchu amrywiaeth o eitemau’r cartref, fel electroneg a dodrefn. Yna caiff yr eitemau hyn eu gwerthu trwy ddwy o siopau’r prosiect yn y Fflint (a gaiff eu rhedeg ar y cyd â Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru), ac mae’r holl elw’n mynd yn syth yn ôl i’r prosiect, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Caiff eitemau eu rhestru i’w gwerthu ar dudalen Facebook Hft Flintshire hefyd, a bydd siopau’n cael eu lansio cyn hir ar wefannau Etsy ac Ebay. 

Mae darparu sgiliau cyflogadwyedd ymarferol yn amcan allweddol o’r cynllun. Mae ffigurau’n dangos bod cyfran yr oedolion sydd ag anabledd dysgu sydd mewn cyflogaeth am dâl yn y DU wedi lleihau dros amser ac ar hyn o bryd, dim ond 5.1%* yw’r ffigur. Gwnaeth gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan HFT ar gyfer ymgyrch ‘Lockdown on Loneliness’ yn 2021 ganfod fod diffyg mynediad at gyflogaeth am dâl yn rhwystr sylweddol i gyfeillgarwch a chyswllt ymhlith oedolion ag anableddau dysgu.** 

Mae’r prosiect, sydd yn ei ail flwyddyn bellach, wedi’i ariannu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru trwy ei Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ac mae’n estyniad o brosiect uwchgylchu beiciau presennol a gafodd ei ariannu’n wreiddiol gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru. 

Mae adborth gan bobl a gaiff eu cefnogi gan HFT, sy’n gweithio yn y prosiect, wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda dau yn dweud mor werth chweil yw hi i fod yn creu pethau defnyddiol o baledi – fel meinciau, tai adar a chyfleusterau tacluso biniau – a fyddai’n pydru yn y domen sbwriel fel arall.

“Dwi’n hapus yn creu’r archebion i gwsmeriaid a byddai’n wych pe bai’r cyhoedd yn cyfrannu pethau nad oes eu heisiau arnynt rhagor.” – Carl.

“Dwi’n mwynhau gweithio gyda choed a thynnu hoelion allan o’r coed.” – Melvin.

“Mae’n wych bod yn creu pethau defnyddiol o baledi fel meinciau, tai adar a chyfleusterau tacluso biniau. Byddai’r rhain yn pydru yn y domen sbwriel fel arall.” Ben a Daniel.

Mae aelodau’r cyhoedd wedi cefnogi’r prosiect trwy gyfrannu cannoedd o eitemau i’r achos. Yn ogystal, mae’r prosiect yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu a gweithdai gyda’r cyhoedd gan hyrwyddo gwaith partneriaeth gyda sefydliadau ar draws Sir y Fflint. 

Mae’r fenter hefyd yn cefnogi effaith amgylcheddol gadarnhaol, gan ei bod yn lleihau gwastraff trwy ailbwrpasu neu ailddefnyddio eitemau a fyddai wedi’u taflu fel arall. Mae Fy Ailgylchu Cymru yn dweud y byddai hyd at 10% o ddodrefn a gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi yn addas i’w ailddefnyddio, mae modd ailddefnyddio 20% arall gyda rhywfaint o waith atgyweirio, a dim ond 38% o offer electronig a gaiff ei ailgylchu ar hyn o bryd. 

Dywedodd Katie Higginson, Cydlynydd Tîm HFT Sir y Fflint:

“Mae Ail Gyfle wedi datblygu llawer iawn dros y misoedd diwethaf. Mae’n bleser gweld y bobl rydym ni’n eu cefnogi yn cymryd rhan mewn prosiect mor bwysig a’u bod yn gallu arddangos eu syniadau a’u ffyrdd newydd o weithio. Rwy’n arbennig o falch fod y bobl ag anableddau dysgu rydym ni’n eu cefnogi yn teimlo wedi’u grymuso i arwain, siarad ac egluro wrth ymwelwyr a chwsmeriaid beth yw Ail Gyfle a beth mae’n ei olygu iddyn nhw.”

Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Neil Ayling:

“Mae’r prosiect uwchgylchu hwn wedi creu argraff arnom ni i gyd yng Nghyngor Sir y Fflint. Pan es i ymweld â’r cynllun, roedd yn wych siarad â’r holl bobl yno a gweld yr amrywiaeth o sgiliau roedden nhw wedi’u dysgu. Mae'n amlwg bod pawb sy’n mynychu Abbey Upcycling yn ei fwynhau’n fawr a’u bod yn elwa’n fawr o’u cyfnod yno. Roedd yn wych cwrdd â’r tîm ymroddedig.”

Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael i bobl sydd â sgiliau ym maes gwaith coed, gwaith metel, electroneg, gwnïo a thecstiliau, a chaiff pob rôl wirfoddoli ei hysbysebu trwy Gwirfoddoli Cymru. 

I brynu eitemau gan brosiect Ail Gyfle, ewch i’w siopau yn Abbey Upcycling, 1 Heinzel Court, Aber Road, neu 53 Church Street, y Fflint.  I gyfrannu eitemau, ewch i unrhyw un o’r safleoedd Ail Gyfle yn Bretton, Queensferry, Shotton, y Fflint neu Faes Glas. Gellir trefnu casgliadau ar gyfer eitemau swmpus. Ffoniwch 01352 761 653 i gael manylion.

 

 

IMG_1373.jpg

IMG_1413.jpg