Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Allech chi fod yn fentor gwirfoddol?

Published: 06/06/2022

Volunteer mentor small.jpgMae’n Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr ac mae Sir y Fflint yn gofyn allech chi fod yn fentor gwirfoddol i blentyn neu berson ifanc.

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn recriwtio gwirfoddolwyr i fod yn fentoriaid i blant a phobl ifanc.  Mae gan y bobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth mentoriaid gwirfoddol wahanol anghenion gan fod eu hamgylchiadau i gyd yn wahanol.  Gallai fod yn berson ifanc sy’n symud i lety byw’n annibynnol neu berson ifanc sy’n ei chael yn anodd meithrin hyder neu greu cysylltiadau cymdeithasol neu blentyn sy’n byw gyda rhiant sy’n cael trafferthion emosiynol.  

Rôl y mentor yw gweithio’n hyblyg gyda’r person ifanc a defnyddio gwahanol ddulliau yn unol â hynny.  Gall mentor gefnogi person ifanc mewn sawl ffordd, er enghraifft, er mwyn:

• Dilyn hobïau a diddordebau 

• Rheoli eu perthynas gyda ffrindiau a theulu 

• Mynd i ganolfannau ffitrwydd/chwaraeon  

• Rheoli arian 

• Setlo mewn llety

• Cymorth emosiynol      

• Siarad, cerdded, gweithgareddau ymlacio 

Bydd faint o amser rydych chi’n ei wirfoddoli’n dibynnu arnoch chi a’r un rydych chi’n ei fentora.  Fel arfer, bydd yn golygu unwaith yr wythnos am 2–3 awr.   

Mae un gwirfoddolwr, Jenna-Leigh Phillips, yn fam brysur sy’n neilltuo amser i wirfoddoli rhwng amser ysgol ei phlant.  Dywedodd Jenna:

“Heddiw, mi es i a hi am goffi a sgwrs fach. Mae ’na lawer yn digwydd yn ei bywyd hi ar hyn o bryd ac mae hi’n rhoi cymaint o amser i bawb arall. Mae gallu sôn am sut mae hi’n teimlo, heb gael ei barnu, yn ei helpu hi i weld pob dim yn ei wir oleuni.  Roedd sesiwn heddiw’n canolbwyntio ar y coleg, gan ei bod hi ar hyn o bryd yn gweithio gartref heb lawer o gymorth. 

“Mi benderfynais i wirfoddoli gan fy mod i wedi fy synnu gan amseroedd aros ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth.  Roeddwn i felly eisiau mynd ati i gefnogi pobl ifanc drwy gyfnodau anodd a heriol yn eu bywydau gyda’r gobaith o gael effaith gadarnhaol. 

“Beth rydw i’n ei hoffi fwyaf am wirfoddoli yw gweld y wên ar wyneb y person ifanc ar ôl i ni gyfarfod a hynny, weithiau, pan mae’r person ifanc yn methu â gweld unrhyw beth cadarnhaol ar ddechrau’r cyfarfod.

“Fe fyddwn i’n cynghori pobl eraill i roi cynnig ar wirfoddoli oherwydd mae cymaint o bobl ifanc angen cymorth. Gall ychydig oriau yr wythnos wneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau nhw.” 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae gwirfoddoli’n beth sy’n rhoi cymaint o foddhad.  Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd ag agwedd gadarnhaol, sgiliau cyfathrebu da ac ymroddiad i gefnogi pobl ifanc.  Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym ni eu bod nhw eisiau mentor sy’n gyfeillgar, yn ddibynadwy ac sy’n dda am wrando a datblygu hyder.  

“Fel mentor gwirfoddol, byddech yn cyfarfod â’r person ifanc yn rheolaidd i feithrin perthynas; mae pobl ifanc yn aml angen teimlo’n well amdanyn nhw eu hunain cyn gallu gosod uchelgais, mynd i’r afael â heriau a dysgu gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain.”  

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrea Wade, cydlynydd mentoriaid gwirfoddol – 01352 701089. E-bost: andrea.wade@flintshire.gov.uk neu ewch i’n tudalennau gwe:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Social-Services/Mentoriaid-Gwirfoddol-Gwasanaethau-Cymdeithasol-i-Blant.aspx 

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Jobs-and-careers/Volunteeering.aspx