Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Taliad i Gefnogi Gofalwyr Di-dâl

Published: 16/05/2022

Money Fotolia_40586732_XS[1].jpgMae un taliad o £500 ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022.

Mae’r taliad yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol sydd wedi bod ar ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol y maent wedi’u hysgwyddo.  Mae’r taliad wedi’i dargedu at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ar incymau isel.

Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn y taliad:

  • os oes ganddynt hawl tanategol i Lwfans Gofalwyr ond nad ydynt yn derbyn taliad oherwydd eu bod yn derbyn budd-dâl arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch; neu
  • os ydynt yn derbyn premiwm gofalwr o fewn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd.

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael y gefnogaeth hon, gallwch gyflwyno cais yma siryfflint.gov.uk/gofalwyrdi-dâl ar wefan Cyngor Sir y Fflint o 9am ar 16 Mai 2022.  

Mae’n rhaid i’r holl ffurflenni cofrestru gael eu derbyn cyn 5pm ar 15 Gorffennaf 2022. Bydd y taliadau yn cael eu talu i ymgeiswyr llwyddiannus erbyn diwedd mis Medi 2022.