Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pythefnos Gofal Maeth 2022

Published: 05/05/2022

393A1513.jpgMae Sir y Fflint yn un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cydweithio fel Maethu Cymru.

Mae’r Pythefnos Gofal Maeth (9-22 Mai), Maethu Cymru yn dymuno dathlu’r gwahaniaeth mae gofalwyr maeth wedi’i wneud i fywydau plant yn Sir y Fflint.  Mae’n ymgyrch codi ymwybyddiaeth o faethu mwyaf y DU a ddarperir gan elusen faethu flaenllaw, Y Rhwydwaith Maethu. Thema eleni yw ‘cymunedau maethu’ a bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth. 

Mae’n gobeithio taflu goleuni ar y nifer o ffyrdd mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig Covid-19 - ac i amlygu’r angen am ofalwyr maeth ymroddedig.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae teuluoedd ar draws y sir wedi eu taro’n galed gan effaith y pandemig. 

Mae llawer wedi defnyddio’r cyfnod anodd hwn fel cyfle i greu ‘normal newydd’ mwy cadarnhaol - nid yn unig yn eu bywydau nhw ond ym mywydau plant sydd wedi eu maethu’n lleol.   Yn ôl Maethu Cymru, roedd dros 350 o deuluoedd yng Nghymru wedi dechrau maethu gyda’u hawdurdod lleol yn ystod y cyfnod hwn. 

Meddai Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Neil Ayling: 

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf yn bendant wedi bod yn heriol ond rydym wedi gweld cymaint o drugaredd ac anhunanoldeb gan ofalwyr maeth yn Sir y Fflint sydd wedi agor eu drysau i blant a rhoi lle diogel iddynt fod. 

“Mae maethu wedi gorfod addasu i’r gwahanol amgylchiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac roedd ein gofalwyr maeth wedi camu ymlaen i ddarparu gofal rhagorol a chefnogaeth i blant a theuluoedd oedd eu hangen nhw ac rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn a mynegi ein gwerthfawrogiad am bopeth maent wedi’i wneud.”

Un gofalwr maeth wnaeth benderfynu agor ei chalon a’i chartref i ofalu am blant a phobl ifanc yn y 12 mis diwethaf yw Caz Bateman, 40 o Mancot, ddaeth yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir y Fflint ym mis Mai 2021. 

Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi trafod y posibilrwydd ohonom yn maethu fel teulu Yn ystod y pandemig Covid gwnaethom i gyd eistedd i lawr gyda’n gilydd a chael sgwrs fel teulu am symud ymlaen gyda’r syniad. 

“Roedd gennym fwy o amser gartref fel teulu a gwnaethom benderfynu gwneud ymholiadau gyda’n hawdurdod lleol.  Gwnaethom gwblhau’r hyfforddiant sgiliau i faethu a blwyddyn i’r mis hwn cawsom ein cymeradwyo’n swyddogol.  Rydym wedi cael dros ddwsin o blant maeth hyd yma! 

“Rydym hefyd yn rhan o’r model mockingbird ac mae gennym ein rhwydwaith bach ein hunain o deulu estynedig ble rydym i gyd yn cefnogi’r naill a’r llall.”

Mae Maethu Cymru yn dymuno annog mwy o bobl i fod yn ofalwyr maeth yn Sir y Fflint fel y gall plant aros yn lleol, yn agos at eu ffrindiau; teulu ac aros yn eu hysgol.   Mae hyn yn gallu helpu plant a phobl ifanc i gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod anodd iawn.  

I wybod sut y gallwch faethu yn Sir y Fflint ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/

 

Sir-y-Fflint_Bilingual-Doubles-Stacked-LogoWelsh-First.png

   Fostering Netwotk logo.png