Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Sir y Fflint yn cael ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

Published: 05/05/2022

SS Allocades Award.jpg

Cafodd Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint gymeradwyaeth uchel  yn Acolâdau Gofal Cymdeithasol Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar. Mae’r Acolâdau yn cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Cawsant eu cydnabod yng nghategori ‘Adeiladu Dyfodol Disglair gyda phlant a theuluoedd’ am brosiect ‘Lleisiau Clwyd Voices of the Future’. Dyma brosiect rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn Sir y Fflint a Theatr Clwyd sydd yn cynnig cyfle i blant diamddiffyn a’u brodyr a chwiorydd i dreulio amser yn Theatr Clwyd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.  Yn ystod y sesiynau hyn, gall teuluoedd gael seibiant o’u rôl gofalu gan wybod bod eu plant yn ddiogel, yn rhoi cynnig ar weithgareddau ac yn cael hwyl. 

Cawsant eu cydnabod hefyd yng nghategori ‘Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant’ ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu Gyda’n Gilydd Gogledd Cymru, partneriaeth sydd yn cynnwys adrannau gofal cymdeithasol y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nod y prosiect yw cydgynhyrchu gwasanaethau gyda phobl ag anableddau dysgu a’u rhieni a’u gofalwyr. Mae 68 prosiect wedi cael eu sefydlu i gefnogi Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru 2018 i 2023 ac mae mwy na 125 ‘rôl’ wedi cael eu creu ar gyfer dinasyddion a gofalwyr, gan adeiladu ar eu cryfderau unigol. 

Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae’n gyflawniad eithriadol i gael ein cydnabod yn Acolâdau Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hi bob amser yn braf pan mae gwaith caled ac ymroddiad ein swyddogion a phartneriaid yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.  Da iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau yma sydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bobl.  

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: 

Mae’r safon rydym wedi’i dderbyn unwaith eto eleni wedi bod yn eithriadol o uchel. Roedd hi’n dasg anodd iawn i’r beirniaid geisio penderfynu ar yr enillwyr ac ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng rhai o’r buddugwyr. 

Gallwch wylio seremoni wobrwyo Acolâdau yma, ac mae prosiectau Sir y Fflint i’w gweld am 49:35

https://www.youtube.com/watch?v=BSgFWUSK25k