Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun 20mya Bwcle

Published: 15/03/2022

Ar ôl cysylltu â Llywodraeth Cymru am weithredu terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle yn ddiweddar, mae Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts wedi croesawu ymateb cadarnhaol gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Er ein bod yn cefnogi cyflwyno terfyn cyflymder 20mya gan Lywodraeth Cymru mewn ardaloedd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr, rydym wedi gwrando ar bryderon preswylwyr lleol ers gweithredu terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle ar 28 Chwefror, ac rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried adolygu eithriadau’r meini prawf a arweiniodd at gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ar y ffyrdd prifwythiennol. 

“O ystyried faint o adborth a gawsom gan y gymuned leol, rydym yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cydnabod yr adborth yma, ac er mai 20mya yw’r terfyn awtomatig ar hyn o bryd, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar y terfyn cyflymder ar ffyrdd prifwythiennol drwy adolygu eithriadau’r meini prawf cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno ymhellach ar draws Cymru yn 2023.  Rydym ni’n gwerthfawrogi bod y mater yma’n denu mwy o sylw yn y gymuned ac rydym wedi gofyn i’r mater gael sylw fel blaenoriaeth uchel. 

“Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i arwain unrhyw ymgysylltiad pellach â’r gymuned er mwyn sicrhau bod preswylwyr lleol yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar unrhyw newidiadau a gynigir i eithriadau’r meini prawf.

Dywedodd Prif Weithredwr Sir y Fflint, Neal Cockerton:

“Rwy’n ymwybodol o’r cyfraniad a wnaed gan gynghorwyr lleol ym Mwcle sydd wedi bod yn cael nifer fawr o ymholiadau.  Felly, rwy’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ystyried y meini prawf eithriadau fel mater brys, fel bod modd egluro materion cysylltiedig ymhellach, a gwneud cynnydd.”