Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd – sut i osod eich sticer Adnabod Amledd Radio

Published: 22/02/2022

garden-recycling-600-pixels_large.jpgHoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa preswylwyr i adnewyddu eu tanysgrifiad ar gyfer casgliad gwastraff gardd y Cyngor sy’n ailddechrau o 1 Mawrth 2022 ac yn cael ei gynnal tan 10 Rhagfyr 2022.

Eleni, byddwn yn cyflwyno sticer newydd, sy’n cynnwys tag RFID (adnabod amledd radio) i bob aelwyd sy’n tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth casglu.  Mae fideo wedi cael ei greu i helpu trigolion i wybod ble i osod y sticer ar flaen eu bin.   I wylio’r fideo, ewch i’n gwefan, cliciwch “Ble ydw I’n gosod y sticer RFID newydd?”

Gall preswylwyr gofrestru ar gyfer y cynllun unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond rydym yn annog pobl i gofrestru'n gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn elwa o'r gwasanaeth casglu llawn yn ystod y tymor, yn ogystal â'r pris tanysgrifiad gostyngol sydd ar gael cyn 28 Chwefror 2022. Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn, neu ar-lein drwy gydol y tymor, yn £32 fesul bin. Ar ôl 1 Mawrth 2022 bydd pris sylfaenol yn £35, os nad ydych yn talu ar-lein.

Gall cwsmeriaid newydd gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth unrhyw bryd, drwy ymweld â'r wefan, neu drwy ein ffonio ar 01352 701234; bydd ffioedd yn parhau i fod yr un fath fodd bynnag.  Er mwyn tanysgrifio ar-lein, ewch i’n gwefan.