Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant TWIG ar gyfer Parc Gwepra

Published: 10/02/2022

Mae Parc Gwledig Gwepra wedi cael Grant Buddsoddi mewn Coetir Llywodraeth Cynulliad Cymru – TWIG – i waith rheoli cynefin a chael mynediad.  

Bydd y grant yn galluogi’r Tîm Amgylchedd Naturiol a Mynediad–Sir y Fflint i blannu coetir newydd, cyflawni gwaith cynefin hanfodol a gwella mynediad i’r cyhoedd.   3fe7cd6b-5567-482e-b9a0-bf3c1ba8b4b2.JPG

Mae’r tîm yn bwriadu plannu 5,000 o goed ar dir cyfagos â Pharc Gwledig Gwepra, a fydd yn rhoi etifeddiaeth hirdymor ar y safle a chyfrannu tuag at ymrwymiad Sir Y Fflint i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y gwaith cynlluniedig yn cynyddu cadernid coetir Gwepra gyda chynllun plannu a gwaith rheoli cynefin. Mae cynlluniau yn cynnwys coetir newydd ac ardal coetir pori, pwll dwr newydd, rheoli’r ddraenen ddu, llwybrau newydd a gwella’r adwyon. Bydd llwybrau cyfredol drwy’r safle yn cael eu cynnal ynghyd â cyswllt llwybr mynediad newydd i Basn y Diafol. 

Bydd cyfleoedd gwirfoddoli i gynorthwyo â phlannu’r coed, cysylltwch â countryside@flintshire.gov.uk  neu dilynwch Countryside and Coast ar gyfryngau cymdeithasol i weld os hoffech helpu neu phryd hoffech helpu.  Bydd y tîm yn gweithio gyda phlant ysgol leol i blannu rhai o’r coed fel y gallent fod yn rhan o’r prosiect ac i’w gwylio’n tyfu. twig 1.JPG

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

 “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cyllid hwn.  Bydd yn galluogi’r tîm i wneud newidiadau cadarnhaol a hirdymor i Barc Gwledig Gwepra ar gyfer bywyd gwyllt a’r gymuned.  Creu cynefinoedd newydd a rheoli’r rhai cyfredol yn ychwanegu gwerth i’r parc.  Bydd hygyrchedd gwell ar rai o’r llwybrau ac adwyon, a rwy’n credu bydd holl ddefnyddwyr y parc yn croesawu hyn.”