Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartref gofal newydd ar gyfer y Fflint yn symud gam yn nes

Published: 10/02/2022

Fe symudodd cynlluniau Cyngor Sir y Fflint ar gyfer adeilad modern wedi ei adleoli gam ymlaen yn ddiweddar gyda chwblhau trosglwyddo tir o’r Bwrdd Iechyd i Gyngor Sir y Fflint.  

Fe fydd y prosiect ailddatblygu sydd werth £15 miliwn bron yn dyblu nifer y lleoedd sydd ar gael, gyda 25 o leoedd newydd ychwanegol.  Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd ar gynigion a bydd y trosglwyddiad hwn nawr yn galluogi i gynlluniau safle a chynigion datblygu gael eu llunio.

Fe fydd y cartref newydd yn hwyluso darpariaeth Rhyddhau i Wella ac Asesu yn y sir. Mae hyn yn adeiladu ar agor 32 o leoedd ychwanegol yn llwyddiannus yn Marleyfield House ym Mwcle, lle’r ydym ni’n cefnogi unigolion i gael eu rhyddhau’n gyflym ac yn ddiogel o’r ysbyty ac ymlaen i’w cartref.

Bydd cartref gofal newydd Croes Atti yn llety o'r radd flaenaf wedi ei adeiladu’n bwrpasol, ac nid yn unig y bydd yma leoliadau hirdymor a thymor byr ond bydd hefyd yn helpu i adsefydlu pobl ar ôl iddynt dreulio cyfnod yn yr ysbyty er mwyn iddynt adennill eu hyder a’u hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd o ran gwerthfawrogi pobl hyn.  Gan adeiladu ar lwyddiant Marleyfield, bydd y datblygiad newydd gwych hwn yn dod yn lle cartref gofal hoff Croes Atti yn y Fflint.  

“Mae hyn yn ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i wasanaethau o safon, gan fuddsoddi arian mewn gwasanaethau allweddol.  Rwy’n falch fod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf bregus.”

Dywedodd Arweinydd Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Fel rhan o Gynllun y Cyngor i gael cydbwysedd yn ei ddarpariaeth gofal, rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cynllun pwysig hwn sydd werth £15m ac wedi ei ariannu ar y cyd ar gyfer y Fflint, wedi’i adeiladu ar safle’r hen ysbyty bach.  Rwy’n hyderus y byddwn yn gweld cartref gofal newydd gwych yn y Fflint yn y 2-3 blynedd nesaf.”

Mae’r Cyngor yn ymwybodol iawn o’r sensitifrwydd yn ymwneud a’r safle hwn ac mae’n ymdrechu i ddarparu gofal i bobl leol ac adeilad y gall y gymuned fod yn falch ohono.

Delwedd o sut ALLAI'r cyfleuster newydd edrych:

new Croes Atti.jpg