Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Newid Hinsawdd

Published: 11/02/2022

 

Mae Cabinet Sir y Fflint wedi cymeradwyo'r Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer 2022-2030 ac wedi cydnabod y cynnydd a wnaed i gyflwyno mesurau lleihau allyriadau carbon.

Yn 2019, daeth galwad gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau yn y sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae Strategaeth Newid Hinsawdd Sir y Fflint yn nodi amcanion a chamau gweithredu er mwyn lleihau ein hallyridaud carbon uniongyrchol a chamau i leihau ein hallyriadau ehangach a rhai'r yn fwy cyffredinol.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae hwn yn adroddiad pwysig ac yn fater cyfredol iawn y mae angen i bob un ohonom ei gymryd wirioneddol o ddifri.  Mae hwn nid yn unig yn gyfrifoldeb i’r Cabinet, ond hefyd i holl aelodau’r Cyngor - er mwyn gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i ni gyd.”

Meddai Aelod Arweiniol Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Sean Bibby:

“Drwy weithio i gyflawni’r amcanion hyn, gall Cyngor Sir y Fflint wneud ei gyfraniad er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau Cymru sero net erbyn 2050 yn ogystal â chyflawni ein hamcanion lles ein hunain. Gan fod newid hinsawdd a’r amgylchedd â chysylltiad mor agos at ei gilydd, bydd y Cyngor hefyd yn cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth.”