Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn 2021/21

Published: 11/02/2022

Bydd perfformiad y Cyngor mewn perthynas â chwynion yn erbyn gwasanaethau a gafwyd ac yr ymchwiliwyd iddynt gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020/21 yn cael ei rannu yn y Cabinet ddydd Mawrth 15 Chwefror. 

Gwnaed cyfanswm o 59 o gwynion yn erbyn y Cyngor yn 2020/21. Gwnaed nifer uchel o gwynion yn gynamserol i’r Ombwdsman a gyfeiriwyd at y Cyngor i’w harchwilio, neu bu i’r Ombwdsman gynghori achwynwyr i ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r Cyngor fel cam cyntaf.    Cafodd 85% o’r cwynion i’r Ombwdsman eu cau oherwydd eu bod y tu hwnt i awdurdodaeth, yn gynamserol neu wedi’u cau ar ôl ystyriaeth gychwynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Mae’r adroddiad yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda chydweithwyr yn swyddfa’r Ombwdsmon i ddatrys cwynion cwsmeriaid yn gynnar lle bynnag y bo modd.  

“Fodd bynnag, mae angen i ni adolygu sut rydym yn hyrwyddo ein gweithdrefn gwyno a phwysigrwydd hysbysu achwynwyr ynglyn â chynnydd eu cwyn i ostwng y nifer uchel o atgyfeiriadau cynamserol i’r Ombwdsman.”