Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Meini Prawf Trwydded Cerbyd a System Archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Published: 14/01/2022

Fis yma bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Polisi Trwydded Cerbyd diwygiedig a system archebu ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Mae’r Cabinet eisoes wedi cymeradwyo adroddiad yn cynnig y newidiadau hyn, ond gofynnwyd am adroddiad arall i egluro sut y bydd y newidiadau yn cael eu rhoi ar waith. 

Dyma brif bwyntiau’r Polisi Meini Prawf Trwydded Cerbyd diwygiedig: 

  • Mae’r polisi yn nodi manylion meini prawf y cynllun cerbydau
  • Nodir yn glir pa gerbydau nad oes arnynt angen trwydded, pa gerbydau sydd angen trwydded a pha gerbydau sy’n anghymwys 
  • Bydd angen trwydded ar gyfer pob trelar, beth bynnag yw ei faint 
  • Mae cyfyngiadau o ran maint wedi’u gosod ar gerbydau a threlars sy’n gymwys ar gyfer trwydded, oherwydd y gofod prin sydd ar gael ar safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a’r amser ychwanegol a gymerir i ddadlwytho cerbydau mawr a threlars, a all effeithio ar fynediad defnyddwyr, yn enwedig ar adegau prysur 
  • Mae’r broses ymgeisio a’r dogfennau sydd eu hangen wedi'u nodi’n glir 
  • Byddwn yn gwrthod rhoi trwydded i’r rheiny sy’n methu darparu’r dogfennau cywir i gefnogi eu cais am drwydded a bydd amserlen yn cael ei gosod ar gyfer ailymgeisio  
  • Bydd trwyddedau yn cael eu rhoi ar gyfer un safle Canolfan Ailgylchu yn unig, er mwyn gwella dulliau rheoli a mynediad safleoedd 
  • Bydd trwydded untro yn cael ei chyflwyno i’r rheiny sydd â cherbyd busnes/gydag arwydd sydd eisiau gwaredu gwastraff y cartref 
  • Mae meini prawf y drwydded dros dro wedi’u diffinio’n glir
  • Mae’r polisi yn nodi na fyddwn yn goddef unrhyw achos o gamddefnyddio’r cynllun ac y bydd trwyddedau yn cael eu diddymu os ceir achosion o ddiffyg cydymffurfio 

Bydd y system archebu a fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer deunyddiau neu ffrydiau gwastraff anodd (asbestos a matresi i gychwyn) yn cynnwys: 

• Gofyniad i archebu ar-lein ymlaen llaw

• Cyfyngiad ar faint o wastraff a ellir ei gludo i’r safle yn ystod yr ymweliad

• Cyfyngiad ar nifer yr ymweliadau bob blwyddyn

• Slot amser ar gyfer gwaredu

• Os ydych chi’n dod â fan neu drelar bydd angen trwydded ddilys i archebu

• Manylion pa safle fydd yn derbyn y ffrwd wastraff

• Manylion y diwrnodau sydd ar gael i waredu’r eitem

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Strategaeth wastraff y Cyngor ydi ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff adferadwy â phosibl yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Bydd y systemau newydd hyn yn ein helpu ni i wneud hyn yn dda yn ogystal â’n helpu ni i symleiddio ymweliadau trigolion â’r canolfannau. Rydym ni’n cynnig cyflwyno’r rhain fis Ebrill 2022.”