Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Growth Track 360 yn croesawu craffu ar yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb

Published: 11/01/2022

Growth Track 360 yn croesawu’r ffaith bod Pwyllgor Materion Cymreig Ty’r Cyffredin yn craffu ar yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb (Union Connectivity Review – UCR) ac yn galw ar ymrwymiad cyflym gan Lywodraeth y DU i weithredu argymhellion Syr Peter Hendy.

Heddiw, croesawodd arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol o Ogledd Cymru, y Wirral a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer ym mhartneriaeth Growth Track 360 bod Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU wedi craffu ar yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb (Union Connectivity Review - UCR) ddydd Mercher. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Syr Peter Hendy CBE a chafodd ei gyhoeddi fis diwethaf.

Nododd adroddiad Syr Peter bod Trafnidiaeth Cymru a Growth Track 360 wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer:

  • Metro aml-ddull yn y Gogledd a fydd yn cael ei alluogi drwy welliannau i Brif Linell Gogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau i gapasiti a chyflymder y llinell;
  • Uwchraddio rhwng Wrecsam, Bidston a Lerpwl fel rhan o gysyniad Metro Gogledd Cymru;
  • Gwelliannau i orsaf Caer fel hyb rhwydwaith rheilffordd rhanbarthol; a
  • Rhyngwyneb gorsaf hyb HS2 Crewe i sicrhau manteisio i’r eithaf yn sgil HS2.

Roedd UCR yn cydnabod rôl amseroedd teithio cynt a chapasiti wrth gefnogi gwell cysylltiadau economaidd trawsffiniol a fydd yn hwyluso twf uwch cynaliadwy, swyddi, tai a chydlyniant cymdeithasol.

Yn y gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Syr Peter Hendy wrth y Pwyllgor Materion Cymreig nad yw cysylltedd trawsffiniol wedi bod yn rhan o fuddsoddiad trafnidiaeth hyd yma, a bod angen symud ymlaen i’r Gogledd a Glannau Mersi, gan gynnwys trydaneiddio’r brif linell a chysylltiadau â HS2 a fydd bellach yn bendant yn cyrraedd Crewe. Aeth ymlaen i alw am ddiystyru ffin Cymru-Lloegr at ddibenion buddsoddi mewn trafnidiaeth, gan ychwanegu nad oedd yn gweld dim ond manteision o sicrhau’r pecyn buddsoddi cywir ym Mhrif Linell Gogledd Cymru.

Mewn cyfweliad gyda’r Pwyllgor, dywedodd Chris Heaton Harris AS, Gweinidog Rheilffyrdd y DU a David T.C. Davies AS, Gweinidog y Swyddfa Gymreig, bod yr UCR yn gynllun da i weithio iddo nawr. Cadarnhawyd fod Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cyflwyno cynnig i gronfa ddatblygu UCR ar gyfer gwelliannau i orsaf Caer, Prif Linell Arfordir Gogledd Cymru a gorsaf Shotton, lle mae Prif Linell Wrecsam i Bidston a Phrif Linell Arfordir Gogledd Cymru yn croesi ar draws ei gilydd. Cadarnhaodd Gweinidogion y DU y bydd ymateb ffurfiol i’r UCR yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

Meddai’r Cynghorydd Louise Gittins, Cadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer:

“Roedd adroddiad ymchwil trylwyr Syr Peter Hendy yn cydnabod bod ein heconomi trawsffiniol yn bodoli ac yn cydnabod rôl trafnidiaeth well, gynaliadwy wrth ddatgloi ei botensial llawn ar gyfer y bobl sy’n byw a gweithio yno.  Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn derbyn ei argymhellion yn llawn, yn cyllido’r gwaith datblygu sydd ei angen ac yna’n cydweithio ar unwaith gyda Trafnidiaeth Cymru a Network Rail i roi ein prosiectau blaenoriaeth ar waith gyda chyllid cyfalaf.”

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Is-gadeirydd Growth Track 360 ac Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r dystiolaeth gennym yn awr bod cysylltedd rhwng Cymru a Lloegr wir yn flaenoriaeth. Mae ein heconomi trawsffiniol yn cael ei ddal yn ôl gan ddegawdau o ddiffyg buddsoddi yn ein rheilffyrdd. Nid yw buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, sy’n golygu mai dim ond Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU all gyllido’r buddsoddiadau a argymhellir gan UCR. Rydym yn erfyn ar ASau ar draws y pleidiau ac o bob etholaeth yn ein rhanbarth, yng Nghymru ac yn Lloegr, i bwyso ar Lywodraeth y DU i ryddhau cronfeydd datblygu ac yna’r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen ar Trafnidiaeth Cymru a Network Rail er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o ran trafnidiaeth gynaliadwy.”