Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cannoedd o fusnesau Sir y Fflint yn cael eu talu'n gynnar drwy gynlluniau newydd FastTrack a FreePay

Published: 28/07/2021

Y Cyngor Sir ac Oxygen Finance wrth eu bodd gyda llwyddiant y fenter

Mae Sir y Fflint ac Oxygen Finance wedi dod at ei gilydd i ddatblygu cynllun talu ar gyfer cwmnïau sy’n anfonebu’r Cyngor Sir.

Mae cyflenwyr bach lleol sy’n gymwys yn cael eu rhoi ar gynllun FreePay yn awtomatig i dderbyn taliad yn gyflym. Mae cofrestru â’r cynllun FastTrack yn rhoi dewis i fusnesau dderbyn taliad yn syth ar ôl i’r anfoneb gael ei hawdurdodi, yn hytrach nag aros hyd at 30 diwrnod. Mae hyn yn helpu llif arian cwmnïau ac yn lleihau eu dibyniaeth ar fenthyciadau neu gyfleusterau gorddrafft. 

Meddai Ben Jackson, Prif Weithredwr Oxygen Finance: “Efo Sir y Fflint rydym ni wedi cyflwyno FreePay sy’n sicrhau bod busnesau cymwys yn cael eu talu’n gynnar. Rydym ni’n falch eich bod ni’n gallu defnyddio’r gwasanaeth yma, sy’n darparu buddion pellach i gyflenwyr bach ac yn ffordd dda i gefnogi busnesau lleol.”

Mae busnesau mwy yn gymwys i ymuno â gwasanaeth tebyg o’r enw FastTrack. Mae’r gwasanaeth hwn, sydd hefyd yn cael ei ddarparu gan Oxygen Finance, yn defnyddio ad-daliad bychan, wedi’i gytuno arno ymlaen llaw, sy’n seiliedig ar ba mor gyflym y mae’r taliad yn cael ei dalu.

Mae dros 350 o gyflenwyr eisoes wedi manteisio ar y rhaglen a gwerth £2.3 miliwn o anfonebau wedi’u prosesu rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. 

Mae derbyn taliad cyn gynted â phosibl yn dod â buddion sylweddol i gwmnïau bach a mawr ac yn gallu gwneud effaith fawr ar dwf a datblygiad busnesau. Ar draws y DU, amcangyfrifir fod taliadau hwyr yn achosi i 50,000 o gwmnïau fethu bob blwyddyn. Bydd y cynllun yn cefnogi’r economi lleol ac yn cadw pobl mewn gwaith, sy'n hanfodol wrth iddyn nhw ddod allan o'r cyfnod clo. 

Canmolwyd y cynllun gan Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Johnson: “Mae FastTrack yn darparu manteision sylweddol i’n cyflenwyr gyda channoedd o gwmnïau yn derbyn taliadau yn gyflym ac yn effeithlon. Mae hyn yn dangos pa mor dda ydi’r broses. Rydym ni’n gweld mwy a mwy o gwmnïau yn cofrestru wrth iddyn nhw sylweddoli bod derbyn taliad yn gyflym yn gallu bod yn rhaff achub, yn enwedig os ydyn nhw’n gallu defnyddio’r cynllun FreePay.” 

Oxygen Finance ydi prif ddarparwr rhaglenni taliadau cynnar y DU, gan weithio gyda chynghorau ar hyd a lled y DU a miloedd o gyflenwyr yn defnyddio’u datrysiad arbenigol. Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth a ddarperir i Sir y Fflint yn: siryfflint.gov.uk/cy/Business/Selling-to-the-Council/FastTrack.aspx