Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofio Glowyr Pwll Glo Bettisfield 

Published: 27/07/2021

Mae'r nifer o fywydau a gollwyd ym Mhwll Glo Bettisfield bellach yn cael eu coffáu gyda cherflun deial haul, a ddadorchuddiwyd ddydd Gwener, 23 Gorffennaf gan yr Arglwyddes Hanmer o Bettisfield (Whitchurch). 

Agorodd teulu Hanmer y Pwll Glo yng nghanol y 1800au, gan ddarparu gwaith i dair cenhedlaeth o lowyr. Yn 850 troedfedd, hwn oedd y dyfnaf o'r nifer o byllau yn y pentref ac roedd yn ymestyn ymhell o dan Aber Afon Dyfrdwy i gyfeiriad Neston. Roedd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘y lladd-dy’ gan fod cymaint o ddamweiniau. Ar frig ei gynhyrchiad ym 1908, cyflogwyd 641 o ddynion yn y pwll glo. 

Gweledigaeth Cyfeillion Blaendraeth Bagillt oedd y Prosiect Coffa, grwp cymunedol lleol a sefydlwyd i ddatblygu a gwella treftadaeth naturiol a hanesyddol yr ardal. Roedd y Cyfeillion wedi comisiynu'r gof a'r artist lleol, Peter Carlyle i ddylunio a gwneud y Goelcerth Ddraig adnabyddus, a dewiswyd ef hefyd i ddylunio a gweithgynhyrchu'r cofeb y deial haul. Galluogodd grantiau gan Gyngor Cymuned Bagillt a Chymdeithas Adeiladu Skipton i’r prosiect gychwyn.

 

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae Blaendraeth Bagillt bellach yn fan gwyrdd gwerthfawr i’r gymuned leol ei fwynhau, ac yn fudd i iechyd a lles pobl. Mae'r gofeb yn cofio cyfnod gwahanol yn hanes y safle fel Pwll Glo. Collodd llawer o deuluoedd anwyliaid yn ystod yr amser hwn. Mae'n deyrnged addas iddyn nhw, ond bydd hefyd yn rhoi mwynhad i bawb a fydd yn ymweld â'r safle yn y dyfodol.”  

Meddai Gruffudd Owen, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae miloedd o bobl yn cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon bob blwyddyn. Mae nodweddion fel y gofeb deial haul yn cyfoethogi profiad a gwerthfawrogiad pobl drwy ddod â threftadaeth y gorffennol ar hyd y llwybr yn fyw.”

Meddai crëwr y cerflun, Peter Carlyle:

 “Fel trigolyn lleol roeddwn yn falch o gael cais i greu’r cerflun hwn ar gyfer cymuned Bettisfield. Gobeithio y bydd cenedlaethau lawer yn ei drysori.”

Ni fyddai’r gofeb wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y prif arianwyr, Llywodraeth Cymru, a ddarperir drwy Lwybr Arfordir Cymru, a Chyfoeth Naturiol Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Sir y Fflint. Hoffem ni ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cyfraniad. 

Rhaid diolch hefyd am y deunyddiau neu’r gwasanaethau a ddarparwyd, gan gynnwys Jeff Ellis a’i Fab, Jones Brothers Concrete, J R Roberts Slurry Sealing Ltd, Rugeley Power, Gof Carlyles a hefyd bobl hael Bagillt, gan gynnwys Cyfeillion Blaendraeth Bagillt. 

DSC_0157.jpg      DSC_0175.jpg